Andy Murray
Mae Andy Murray wedi siarad am ei falchder o gyrraedd rownd derfynol twrnament yr Australian Open wedi iddo ennill gêm danllyd yn erbyn Tomas Berdych o 6-7, 6-0, 6-3, 7-5.

Roedd hi’n gêm ffrwydrol ar y cwrt ac oddi arno, gyda dyweddi Andy Murray, Kim Sears, yn cael ei dal ar gamera teledu yn ymddangos fel ei bod yn rhegi ar wrthwynebwr ei chariad.

Wedi’r gêm, fe wnaeth Murray amddiffyn ei gariad gan ddweud: “Wrth i densiynau godi, fe allwch chi ddweud pethau y byddwch yn eu difaru.”

Mae cyn-hyfforddwr Murray erbyn hyn yn hyfforddi Tomas Berdych.

Bydd Murray yn wynebu unai Novak Djokovic neu Stan Wawrinka yn y rownd derfynol ddydd Sul – y rownd derfynol i’r Albanwr chwarae ers iddo ennill Wimbledon a’r pedwerydd tro iddo chwarae yn rownd derfynol yr  Australian Open.