Lewis Hamilton, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2014
Cafodd Pencampwr Fformiwla Un y Byd, Lewis Hamilton, ei goroni fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2014 y BBC mewn seremoni yng Nglasgow neithiwr.

Hamilton ddaeth i’r brig yn y bleidlais gyhoeddus, o flaen y golffiwr Rory McIlroy, oedd yn ail a’r rhedwraig Jo Pavey oedd yn drydydd.

Daeth y Cymro Gareth Bale yn wythfed, ar ôl blwyddyn ddisglair yn chwarae i dîm pêl-droed Real Madrid.

Pencampwr Byd

Fe enillodd Hamilton ail Bencampwriaeth Byd Fformiwla Un ei yrfa eleni ar ôl buddugoliaeth yn y ras olaf yn Abu Dhabi.

Cafodd y gyrrwr dros 200,000 o bleidleisiau, dros 80,000 yn fwy na Rory McIlroy a enillodd ddau o brif gystadlaethau golff y byd eleni yn ogystal â bod yn rhan o dîm Ewrop enillodd Gwpan Ryder.

Cafodd Jo Pavey bron i 100,000 o bleidleisiau ar ôl ennill efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn y ras 5,000m ac aur ym Mhencampwriaeth Ewrop yn y 10,000m – er bod y rhedwraig 40 oed dim ond wedi rhoi genedigaeth deng mis ynghynt.

Y farchogwraig dressage Charlotte Dujardin ddaeth yn bedwerydd, gyda’r sgiwyr Paralympaidd Kelly Gallagher a Charlotte Evans yn bumed.

Y bencampwraig rasio sgerbwd Lizzy Yarnold oedd yn chweched, y gymnast Max Whitlock oedd yn seithfed, a Bale yn wythfed.

Y bocsiwr Carl Froch ddaeth yn nawfed, ac fe gwblhaodd y nofiwr Adam Peaty y rhestr o ddeg.

Paul McGinley enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn am arwain tîm golff Ewrop i fuddugoliaeth yng Nghwpan Ryder, a thîm rygbi merched Lloegr enillodd Tîm y Flwyddyn wedi iddyn nhw gipio Cwpan y Byd.