Mae’r pencampwr tenis Andy Murray a’i gariad Kim Sears wedi dyweddïo, cyhoeddodd ei asiant.

Mae’r ddau wedi bod mewn perthynas ers 2005 ar ôl cyfarfod yn nhwrnament yr US Open.

Credir bod yr Albanwr a’r cyn-bencampwr Wimbledon sy’n 27 oed, wedi gofyn i Kim Sears, 26, ei briodi ddydd Mercher diwethaf, ond nid oes manylion am y lleoliad.

Mae Kim Sears yn wreiddiol o Sussex ac mae hi i’w gweld yn cefnogi Andy Murray yn ei gemau tennis yn aml. Mae hi hefyd yn artist ac yn ferch i’r hyfforddwr tennis Nigel Sears.

Cafodd ei disgrifio gan ei darpar fam yng nghyfraith, Judy Murray, fel y “peth gorau i ddigwydd i Andy”.