Lewis Hamilton
Cipiodd Lewis Hamilton fuddugoliaeth allweddol yn Grand Prix yr UDA i ymestyn ei fantais dros Nico Rosberg yn y bencampwriaeth i 24 pwynt, gydag ond dwy ras yn weddill.

Llwyddodd Hamilton, a oedd y tu ôl i Rosberg tan lap 24, i oddiweddu’i gyd-yrrwr Mercedes a dal ymlaen ar gyfer ei bumed fuddugoliaeth yn olynol.

Torrodd Hamilton y record hefyd am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau gan Brydeiniwr mewn rasys F1, gan gwblhau wythnos oedd hefyd wedi gweld trafferthion i rai o’r gwneuthurwyr ceir eraill yn y gystadleuaeth.

Phil Kynaston sy’n cloriannu hynt a helynt yr wythnos, a’r penwythnos o rasio.

Trafferthion ariannol

Ychydig cyn penwythnos Grand Prix UDA (ar drac y Circuit of the Americas yn Austin, Tecsas) cafwyd y newyddion bod Caterham a Marussia wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Fe gawson nhw ganiatâd i fethu’r ras hon (a’r nesaf ym Mrasil, gan fod y nwyddau yn cael eu cludo yn syth), wrth iddynt chwilio am brynwyr.

Gyda’r pwyntiau yn enw Marussia, a sgoriwyd gan Jules Bianchi (sydd dal i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Siapan) ym Monaco yn eu rhoi yn nawfed yn y tabl ar hyn o’r bryd, mae’n debyg bod eu rhagolygon nhw o leiaf yn well na’r tîm gwyrdd.

Y tebygolrwydd oedd y byddai Alexander Rossi wedi camu i fyny i sedd rasio Marussia, felly dyma’r ail dro eleni iddo golli’r cyfle i gymryd rhan yn ei ras gyntaf heb fod unrhyw fai arno ef ei hun (y tro yma yn ei wlad enedigol).

Rhagbrawf

Roedd strwythur ychydig yn wahanol i’r rhagbrawf gyda dim ond 18 car, felly pedwar yn cael eu diarddel o Q1 a Q2 yn hytrach na’r chwech arferol.

Tra roedd Hamilton wedi bod ar y blaen ym mhob sesiwn cynt, fe gafodd Rosberg y gorau ohono ar yr adeg bwysig i gymryd y safle cyntaf ar y grid.

Ym mhen arall y pac, dim ond un lap gwblhaodd Sebastian Vettel, wedi iddo gymryd uned bŵer cyflawn newydd a gorfod cychwyn o’r lôn bit (h.y. doedd dim pwynt rhoi straen diangen ar ei injan newydd).

Blerwch Perez

Roedd dechrau’r ras yn un glan gan bawb, ond hanner ffordd o gwmpas y lap agoriadol fe dapiodd Sergio Perez yn erbyn Kimi Raikkonen cyn taro Adrian Sutil ddwywaith; unwaith o’r cefn yn ei wthio i mewn i droelliad ac unwaith ar yr olwyn blaen, bron fel petai’n ceisio ei sythu eto!

Fe arweiniodd hyn at y car diogelwch yn dod allan. Rhoddodd hyn ddiwedd ar unrhyw obaith i Sauber y byddai Sutil yn gallu sgorio pwyntiau ar ôl rhagbrawf da.

Wedi i’r ras ailgychwyn fe frwydrodd Daniel Ricciardo yn galed yn erbyn Fernando Alonso i wneud i fyny am gychwyn gwael o’r grid. Wrth i Ricciardo symud yn ei flaen i basio Valeri Bottas, roedd Alonso’n parhau i frwydro â Jenson Button.

Cau’r bwlch

Erbyn y pitstops cyntaf roedd Rosberg yn dal i lwyddo i gadw Hamilton y tu ôl iddo, wrth iddo geisio cau’r bwlch yn y bencampwriaeth. Ond roedd hi’n glir fod Rosberg yn llai bodlon gyda’i ail set o deiars na Hamilton wrth i’r bwlch leihau.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Rosberg golli arweinyddiaeth y ras i Hamilton, gyda safle’r Prydeiniwr yn y bencampwriaeth yn edrych yn gryfach eto.

Fe gadwodd Rosberg Hamilton yn ei olwg, ond doedd o methu gwneud dim i’w gael yn ôl.

Erbyn hyn roedd rhan fwyaf o’r cyffro tua gwaelod y pwyntiau gyda’r ddau Lotus yn cael rasys cryf, tan i Sebastian Grosjean (gyda’i helmed Matt le Blanc!) ddatblygu problem llywio a dechrau mynd oddi ar y cwrs ar bron pob tro. Yn eu plith hefyd roedd Vettel wedi rasio i fyny o’r safle olaf.

Fe lwyddodd Vettel i ddringo i seithfed y tu ôl i Alonso, gyda Magnussen a Vergne yn ceisio achub eu gyrfaoedd yn wythfed a nawfed, ac fe sgoriodd Pastor Maldonado bwyntiau cyntaf ei dymor.

Ar y blaen doedd Rosberg methu stopio Hamilton rhag ennill. Roedd Ricciardo wedi llwyddo i guro’r ddau Williams gyda Bottas yn bedwerydd a Massa’n bumed.

Hamilton nawr yw’r Prydeiniwr gyda’r mwyaf o fuddugoliaethau erioed, ond gyda bwlch o 24 pwynt yn y bencampwriaeth mae hi dal yn bosib i Rosberg ddefnyddio’r ras bwyntiau dwbl olaf yn Abu Dhabi i gipio’r teitl.

Wrth i Fformiwla 1 symud ymlaen i Interlagos, Brasil y penwythnos yma, o safbwynt y rasio alla’i ddim dweud fod F1 wedi methu Caterham a Marussia.

Ond mae’r timau lleiaf yn bwysig i’r gamp, felly gobeithio bydd buddsoddwyr yn dod i’r amlwg iddynt cyn hir.