Oscar Pistorius (Llun PA)
Mae erlynwyr yn Ne Affrica yn dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn y dyfarniad a’r ddedfryd yn achos yr athletwr Paralympaidd Oscar Pistorius.

Roedd hi’n hysbys bod yr awdurdodau cyfreithiol yn anhapus ar ôl i’r llys benderfynu nad oedd y rhedwr yn euog o lofruddio’i gariad Reeva Steenkamp.

Yn hytrach fe benderfynodd y llys ei fod yn euog o ddynladdiad ar ôl saethu’r fodel trwy ddrws yr ystafell ymolchi yn eu fflat.

Pum mlynedd

Maen nhw hefyd am apelio yn erbyn penderfyniad y barnwr mai dim ond pum mlynedd o garchar oedd y gosb.

Mae hynny’n golygu y gallai Oscar Pistorius fod yn rhydd o’r carchar dan drwydded o fewn ychydig fisoedd.

Roedd ymgyrchwyr hawliau menywod hefyd wedi beirniadu penderfyniadaur llys.