Mae Lee Selby wedi cipio’r hawl i ymladd am deitl y byd ar ôl i’r paffiwr pwysau plu o’r Barri guro Joel Brunker yn Llundain neithiwr.

Roedd yr Awstraliad Brunker yn ddi-guro cyn yr ornest yn yr O2 neithiwr ond Selby oedd gryfaf a stopiodd y dyfarnwr yr ornest yn y nawfed rownd.

Y bore ma dywedodd Lee Selby, 27, nad oes “dim yn well na dihuno yn y bore fel yr un sy’n mynd i herio am deitl y byd!”.

Mae disgwyl iddo gwrdd â’r Rwsiad Evgeny Gradovich, pencampwr pwysau plu presennol yr IBF, yn yr ornest am y gwregys byd.