Lewis Hamilton
Ar ôl drama’r Grand Prix diwethaf, pan achosodd Nico Rosberg ffrae enfawr o fewn tîm Mercedes wrth grasio mewn i Lewis Hamilton, roedd hi’n anochel y byddai llygaid pawb ar y ddau brif yrrwr unwaith eto.

Hamilton gafodd y gorau o bethau’r penwythnos yma yn yr Eidal fodd bynnag, gan gipio’r fuddugoliaeth er gwaethaf dechrau gwael, a chau’r bwlch ar Rosberg ar frig y bencampwriaeth i 22 pwynt.

Phil Kynaston sydd yn edrych yn ôl ar y ras ddiweddaraf ym mhencampwriaeth F1, Grand Prix yr Eidal ar gwrs Monza.

Rhagbrawf tawel

Wedi digwyddiadau’r ras ddiwethaf, doedd neb yn sicr beth yn union oedd cosb Nico Rosberg. Does neb yn sicr rŵan chwaith ar ôl i’r Almaenwr wneud camgymeriadau od a adawodd i Hamilton ennill y ras i gau’r bwlch yn y bencampwriaeth. Cafodd y cefnogwyr cartref eu siomi hefyd ar ôl i Ferrari gael ras wael.

O’r safonau rydym wedi dod i’w harfer â nhw, roedd rhagbrawf Grand Prix yr Eidal yn un anarferol oherwydd nad oedd unrhyw beth nodweddiadol wedi digwydd.

Dim damweiniau, dim tanau, dim glaw. Ond dwi’n siŵr y buasai McLaren (pumed a chweched), Vettel (yn curo Ricciardo yn y rhagbrawf am y trydydd tro yn olynol) a Kvyat (gorfod cymryd cosb 10 safle am ddefnyddio ei chweched injan y tymor yma) yn dadlau yn erbyn hynny.

Synnwyd neb o weld Mercedes ar flaen y grid, gyda Hamilton yn arwain Rosberg.

Dechrau araf i Hamilton

Ar ôl helyntion Spa, roedd yna gyffro wrth aros am gychwyn y ras gyda’r ddau Mercedes yn rhannu’r rhes flaen. Ond fe ddiflannodd unrhyw siawns o efelychu dechrau ras Gwlad Belg wrth i broblem meddalwedd rwystro dechrau Hamilton, ac yntau’n colli dau safle.

Fel tasai copïo Hamilton yn beth doeth i wneud, fe gollodd Bottas a Ricciardo nifer o safleoedd o’r cychwyn hefyd.
Fe ddaeth ras Max Chilton i ben ar lap chwech ar ôl iddo daro cerb un o’r ‘chicanes’ yn rhy galed a gorffen yn y wal.

Lap naw, a gyda Hamilton yn gwneud ei ffordd i fyny o bedwerydd y tu ôl i Magnussen a Massa, doedd Rosberg ddim i’w weld o dan unrhyw bwysau.

Ond yna heb reswm fe aeth Rosberg yn syth yn ei flaen wrth y gornel gyntaf, a gorfod gyrru’n igam ogam o gwmpas y byrddau polystyren i ailymuno â’r trac. Debyg i mi fod Rosberg yn methu ymdopi â bod yn agos i geir eraill na bod ar ben ei hun!

Gan ddangos i’w gyd-yrrwr sut mae’i gwneud hi, fe dynnodd Hamilton symudiad perffaith ar Massa drwy’r chicane gyntaf i ddechrau mynd ar ôl Rosberg.

Cosb Rosberg?

Gyda Lewis yn agosáu ato fe fethodd Rosberg y gornel gyntaf eto ar lap 29, a chafodd ei gosbi y tro yma gyda Hamilton yn cymryd y safle blaen.

Roedd Rosberg wedi cymryd y bai am y ddamwain yn Spa ac wedi cymryd cosb gan y tîm. Tybiai llawer mai dyma oedd y gosb.

Ond gyda’r rheolwyr wedi mynnu drosodd a drosodd (er gwaetha’u gorchmynion yn Hwngari) nad oeddynt yn rhoi cyfarwyddiadau i’w gyrwyr, a’r ffaith bod Rosberg wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn casáu gorffen yn ail i Hamilton, fedrai ddim gweld yr Almaenwr yn rhoi buddugoliaeth i’w wrthwynebydd fel hyn.

Yn y wlad waethaf bosib, fe ymddeolodd Alonso gyda phroblem dechnegol am y tro cyntaf mewn blynyddoedd. Gyda Raikkonen ymhell i lawr, doedd dim i blesio ffans Ferrari.

Cyn y penwythnos y gornel olaf, Parabolica, oedd wedi cael y sylw i gyd. Roedd cefnogwyr wedi bod yn gwawdio’r ffaith bod y graen o amgylch y tu allan i’r gornel wedi mynd, a tharmac wedi’i rhoi yn ei le, gan dynnu’r her o’r gornel.

Cystadlu’r gweddill

Ond y chicane gyntaf oedd y prysuraf yn y ras gyda symudiad mawr arall yn digwydd wrth i Bottas gael ei wthio o’r trac wrth geisio pasio Magnussen. Byddai’r gyrrwr McLaren yn cael amser wedi adio i’w ganlyniad fel cosb am yr ail ras yn olynol.

Gan barhau i gopïo Hamilton, fe gafodd Daniel Ricciardo ras gref. Ar ôl pitio’n hwyrach (mewn ras un stop) na’r rhan fwyaf, tuag at ddiwedd y ras roedd ei deiars o mewn stad llawer gwell nag eraill, yn cael y gorau o Perez ac wedyn Vettel.

Roedd y gwahaniaeth rhwng cyflwr y ddau Red Bull yn glir gyda Sebastian yn cloi ei olwynion wrth geisio brecio mor hwyr â Ricciardo.

Tu ôl iddyn nhw, roedd y cyn gyd-yrwyr Perez a Button yn ymladd yn galed. Er ei holl ymdrech (a’r holl lwch brêcs oedd yn dod o gar Perez), ni lwyddodd Button i basio’r Mecsicanwr. Bydd Button yn gobeithio fod ei waith yn ddigon da i berswadio McLaren i’w gyflogi eto yn 2015.

Mewn efelychiad o ddigwyddiadau cynt y ras, fe fethodd Kvyat y gornel gyntaf (a bron a tharo Raikkonen) oherwydd problemau brêcs!

Hamilton yn ennill

Hamilton gymrodd y fuddugoliaeth gyda Rosberg yn ail a Massa yn cael ras dawel i gymryd ei bodiwm cyntaf ers dros flwyddyn.

Gyda’i fuddugoliaeth, mae Hamilton yn ôl i 22 pwynt tu ôl i Rosberg. Fe lwyddodd Bottas i godi yn ôl i bedwerydd, gyda Ricciardo yn curo Vettel. Disgynnodd Magnussen i ddegfed ar ôl ei gosb, tu ôl i Perez, Button a Raikkonen.

Mae’r canlyniad yma’n dod a Hamilton yn ôl o fewn gwerth buddugoliaeth ras o Rosberg, gyda Bottas nawr yn bedwerydd, pwynt o flaen Alonso, a’u timau hefyd yn cyfnewid safleoedd ym mhencampwriaeth y gwneuthurwyr.

Ond bydd rhaid i Hamilton barhau i guro Rosberg yn rheolaidd os am gyfle i gipio’r bencampwriaeth. Mae F1 yn ffarwelio ag Ewrop am dymor arall wrth symud ymlaen i’r ras nos nesaf, yn Singapore.