Lewis Hamilton
Phil Kynaston sy’n bwrw golwg dros y datblygiadau diweddaraf….

Ar ôl edrych fel petai’n gwella yn ddiweddar, mae’r berthynas rhwng cyd-yrwyr Mercedes ar ei waethaf nawr ar ôl gwrthdrawiad rhwng y ddau yn Grand Prix Gwlad Belg ar gwrs enwog Spa Francorchamps.

Fel sydd wedi digwydd yn barod y tymor yma, Daniel Ricciardo oedd yno i gymryd mantais o broblemau’r Saethau Aur gan gipio’i drydedd fuddugoliaeth eleni.

Ond roedd y trafod ar ôl y ras i gyd am y ffrae rhwng Nico Rosberg a Lewis Hamilton, ar ôl i gar Rosberg daro Hamilton ar ddechrau’r prynhawn a difetha’i ras.

Gyrwyr yn symud

Tua’r adeg yma bob blwyddyn mae’r sibrydion am bwy sydd yn mynd i le ar gyfer y tymor nesaf wedi dechrau codi stem. Ond ar ddechrau’r penwythnos lle bu F1 yn ailymgynnull wedi’r egwyl dros yr haf, roedd symudiadau wedi cychwyn yn barod.

Gan ddangos pa mor dyngedfennol yw’r sefyllfa ariannol yng nghefn y grid, mae Kobayashi wedi ei ollwng gan Caterham gyda Andre Lotterer yn cymryd ei le.

Dywedodd y tîm fod gan yr Almaenwr brofiad helaeth mewn tywydd newidiol fel sy’n arferol yn Spa Francorchamps. Gollwng Kobayashi gyda bron i bedair blynedd o brofiad yn F1 am yrrwr heb gychwyn ras erioed na gyrru car F1 ers 2007? Dwi ddim mor siŵr!

Draw ym Marussia, cafodd Chilton ei ollwng am y penwythnos cyn cael ei adfer i’w sedd fore Sadwrn. Hyn ar ôl i Ecclestone dalu ei ffordd allan o achos llwgrwobrwyo.

Rhagbrawf

Fe gychwynnodd y rhagbrawf ar amser dydd Sadwrn wedi i genllysg Beiblaidd ostegu. Yn Q1 fe lwyddodd Lotterer i guro ei gyd-yrrwr Ericsson o bron i eiliad cyfan, tra llwyddodd Jules Bianchi i gyrraedd Q2 yn y Marussia.

Ond ni chafwyd unrhyw syndod mawr arall yn y tywydd wrth i Mercedes gymryd y rhes flaen, Rosberg o flaen Hamilton, gyda sesiynau cryf i Vettel ac Alonso ar yr ail res.

Cychwyn blêr

Fe ddechreuodd cyffro’r ras cyn i’r goleuadau fynd allan; 15 eiliad cyn iddynt fynd allan i fod yn fanwl gywir, gan fod y tîm yn cael trafferth cychwyn car Alonso – o ganlyniad roeddynt dal ar y grid ar ôl y rhybudd i adael.

Byddai’n cael cosb (oedd yn eithaf ysgafn o feddwl y perygl o gael pobl ar y trac tra bod ceir yn codi cyflymder) o bum eiliad ychwanegol i’w pitstop.

Y newyddion yn y padoc oedd bod gyrwyr Mercedes wedi cael trafodaethau i glirio unrhyw ddrwgdeimlad rhyngddynt ers Hwngari, ond mae’n debyg y bydd hynny yn cael ei anghofio rŵan.

Ar ôl dweud mai ail oedd y safle gorau ar y grid mae’n debyg fod Hamilton yn gywir wrth iddo arwain wedi’r gornel gyntaf. Roedd Rosberg yn awyddus i ail-gipio’r safle ac yn edrych am ffordd drwodd drwy’r corneli nesaf, Les Combes.

Ceisiodd fynd o gwmpas y tu allan i’w gyd-yrrwr, ond wrth i’r trac droi’r ffordd arall a Hamilton gymryd y llinell rasio fe wrthdarodd aden flaen Rosberg a theiar ôl Hamilton gan achosi pynjar i’r Prydeiniwr.

Hyn ar ôl i reolwyr Mercedes gyfaddef eu bod yn anghywir i geisio rhoi cyfarwyddiadau i’w gyrwyr yn Hwngari!

Roedd Hamilton yn amlwg yn gandryll, ac yn ei dymer yn gyrru yn ôl i’r pits am deiar newydd yn rhy gyflym. Roedd difrod y teiar wedi achosi twll yn llawr y car.

Golygai hyn fod y car sydd fel arfer eiliadau yn gynt na’r rhan fwyaf o’r pac yn methu dal i fyny efo bron yr un car. Fe ddaliodd ati drwy gydol y ras rhag ofn y byddai cyfnod car diogelwch yn ei ddod a fo yn ôl i gefn y pac, ond ymddeol a wnaeth yn y diwedd.

Yn yr holl fwrlwm ym mlaen y ras, roedd hi’n hawdd methu’r ffaith fod ras gyntaf (ac o bosib unig ras) F1 Andre Lotterer wedi dod i ben ar y lap gyntaf gyda diffyg pŵer.

Ricciardo’n dathlu

Cafodd Daniel Ricciardo lapiau cyntaf llewyrchus gan osod lap cyflymaf y ras ar y pryd a symud i fyny i’r ail safle. Pan benderfynodd Mercedes newid aden flaen ddiffygiol Rosberg, roedd Ricciardo yn arwain gyda mwy na thri lap i fynd yn y ras am y tro cyntaf tymor yma!

Gan weld ei hun yn y pac am un o’r troeon cyntaf yn 2014, roedd Rosberg a’i aden newydd yn cael nifer o frwydrau, gan gloi ei deiar wrth geisio pasio Vettel, ond yn colli safle i Bottas, ac yn difrodi’r teiar.

Wedi iddo bitio am deiars newydd, roedd Rosberg yn dangos y nerth sydd gan Mercedes di-nam.  Erbyn hyn roedd Ricciardo wedi adeiladu bwlch iach iddo’i hun ar y blaen, ond roedd Rosberg yn bwyta i mewn i’r fantais o ddwy i dair eiliad bob lap.

Y tu ôl i hynny roedd brwydr arall rhwng Button, Magnussen ac Alonso, y ddau gyntaf mae’n debyg yn rasio ar gyfer eu dyfodol gyda’r tîm.

Er gwaethaf ymdrechion gorau Rosberg, fe lwyddodd Ricciardo i ennill ei drydedd ras o’r tymor, ar drac lle’r oedd y tîm yn anelu am ‘gyfyngu’r difrod’!

Bottas oedd yn drydydd gyda’i gyd-wladwr Raikkonen yn gorffen yn bedwerydd, ei ganlyniad gorau ers dychwelyd i Ferrari.

Roedd Vettel yn bumed gyda Magnussen yn ennill y frwydr yn erbyn y pencampwyr tan iddo gael cosb ugain eiliad am fod yn rhy ffyrnig yn ei symudiadau yn erbyn Button ac Alonso, gan olygu fod y ddau yno yn symud i fyny safle’r un.

Mae gan Rosberg rŵan gwerth mwy na buddugoliaeth o fwlch ar y brig am y tro cyntaf eleni, gydag ail fuddugoliaeth olynol Ricciardo yn cryfhau ei safle o fel gorau’r gweddill.

Cyffrous fydd gweld beth fydd y sefyllfa rhwng Lewis a Nico erbyn ras Monza, yr Eidal, ymhen pythefnos.