Geraint Thomas - yr unig enillydd ddoe (Chris Ham Etape Cymru)
Fe fydd Tîm Cymru’n ennill o leia’ bump o fedalau ychwanegol yng Ngêmau’r Gymanwlad heddiw, gyda gobaith o fynd ymlaen i frwydro am aur ac arian.

Mae nifer o baffwyr yn cymryd rhan mewn rowndiau cynderfynol heddiw gyda’r gobaith o gael y canlyniadau gorau yn y bocsio ers 1958.

Er eu bod bellach wedi curo’r targed gwreiddiol o 28 medal, prinder aur yw’r siom i Gymru, gyda dim ond pedair, a dim medal o gwbl yn yr athletau.

Oherwydd y prinder aur, mae Cymru wedi gostwng i’r 11fed safle yn y tabl, er fod gan y tîm fwy o fedalau na rhai sy’n uwch.

Y seiclwr, Geraint Thomas,a  enillodd unig fedal Cymru ddoe gan gipio’r fedal efydd yn nhreial amser dynion.

Gobeithion y dydd

Bocsio fydd stori fawr y dydd gyda’r Cymro Sean McGoldrick yn wynebu Michael Conlan o Ogledd Iwerddon am 1:30. Bydd enillydd yr ornest yn ennill lle yn rownd derfynol pwysau 56kg.

Bydd Nathan Thorley o Gymru yn paffio yn erbyn Kennedy St Pierre ym mhwysau 81kg ac yn rownd gyn derfynol y 60kg bydd Joseph Cordina yn gobeithio curo’r Albanwr Charlie Flynne.

Bydd Ashley Williams hefyd yn wynebu Devendro Laishram o India yn y 49kg ac ym mocsio merched, Lauren Price sy’n cynrychioli Cymru yn erbyn Ariane Fortin o Ganada yn rownd gyn-derfynnol  y 75kg.

Yn y gymnasteg, bydd rownd derfynol y trawst yn cynnwys Lizzie Beddoe a Georgia Hockenhull o Gymru, a bydd Jessica Hogg yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol ar y llawr.

Bydd Paul Walker hefyd yn cynrychioli Cymru yn y naid bolyn.