Mae tîm bowls Cymru wedi ennill medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad, trwy guro Awstralia.

Roedd hi’n gêm dynn ar y dechrau, gyda Paul Taylor, Jonathan Tomlinson a Marc Wyatt yn ei chael hi’n anodd cael y gorau ar eu gwrthwynebwyr. Ond fe ddaethon nhw trwyddi ac ennill o 16-13.

Mae cyfanswm medalau Cymru bellach yn 19 – yr un nifer ag yr enillon nhw yng Ngemau’r Gymanwlad 2010 yn Delhi.

Mae Tîm Cymru wedi gosod nod o 27 o fedalau ar gyfer y gemau yn Glasgow.