Nico Rosberg
Llwyddodd Nico Rosberg i ymestyn ei fantais ar frig pencampwriaeth y byd F1 gyda buddugoliaeth ar ei drac cartref yn yr Almaen.

Ar ôl dechrau trychinebus i’w benwythnos llwyddodd ei gyd-yrrwr Mercedes, Lewis Hamilton, adfer ei ras wrth orffen yn drydydd, gyda Valtteri Bottas yn cipio’r ail safle.

Phil Kynaston sydd yn crynhoi drama’r penwythnos.

Rhagbrawf

Ar nifer o benwythnosau’r tymor yma mae Hamilton wedi gwneud bywyd yn galed iddo’i hun drwy gamgymeriadau yn y rhagbrofion. Ond doedd dim bai arno y tro yma wrth i’r car golli rheolaeth a tharo i mewn i’r wal deiars.

Methiant brêcs oedd ar fai, a oedd yn golygu ei fod yn gorfod cychwyn yn ugeinfed yn y pen draw ar ôl dewis newid gerbocs.

Gyda dim ond pedwar pwynt rhyngddynt yn y bencampwriaeth, fe gymrodd Rosberg fantais lawn o anffawd ei gyd-yrrwr i gymryd yr amser cyflymaf ar gyfer ei ras gartref – er i Hamilton gwestiynu dilysrwydd hynny i’r gŵr sydd â rhiant o’r Ffindir ac a fagwyd yn Monaco! Ti’n siŵr nad wyt ti’n un am chwarae gemau meddwl Lewis?

Ond mi roedd yna’n sicr yrrwr o’r Ffindir ar y rhes flaen, gyda Bottas yn ail. Roedd Felipe Massa’n drydydd a Kevin Magnussen yn cael sesiwn gref i McLaren yn bedwerydd.

Ta-ta Massa

Am yr ail ras yn olynol ni pharodd ras Massa ymhellach na’r lap gyntaf. Roedd ef a Magnussen yn rhy brysur yn gwylio Bottas i sylwi ar ei gilydd. Fe roliodd y Williams drosodd, gyda thop y car yn crafu ar hyd y tarmac (nid o fanno oeddynt yn disgwyl i’r sbarcs ddod ar ôl y profion diweddar i geisio gwneud ceir yn fwy trawiadol i wylio!), cyn dod i orffwys yn ôl ar ei olwynion.

Mewn achos o fod yn y lle anghywir ar yr amser anghywir, fe gollodd Daniel Ricciardo nifer o safleoedd yn osgoi’r ddamwain. Yn fuan wedi i’r car diogelwch ddychwelyd i’r pit, roedd Hamilton un safle tu ôl iddo, y ddau ohonynt yn cerfio eu ffordd drwy’r pac.

Mae hynny’n gallu bod yn fantais i’r ail gar wrth allu dilyn y cyntaf drwodd. Ond nid bob tro. Ar ôl i Ricciardo basio Adrian Sutil, nid oedd yr Almaenwr yn disgwyl car arall, ac fe fu bron iddo droi ei gar i mewn i un Hamilton.

Ar ôl i’r ddau basio Jean-Eric Vergne, penderfynodd Lewis ei bod hi’n amser iddo basio’r Red Bull. Fe gollodd Kimi Raikkonen ddarn o’i aden flaen wrth i Hamilton barhau â’i rasio blêr, gan gyffwrdd â’r car coch wrth oddiweddu.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i aden flaen Raikkonen yn fuan wedyn wrth i ddarn arall dorri wrth iddo gael ei wasgu’n dynn gan Alonso ar un ochr a Vettel ar y llall, gyda Vettel yn cymryd dau safle mewn un symudiad. Mwy o rasio gwych rhwng Vettel ac Alonso!

Mae’n debyg bod Hamilton yn hoff iawn o gyffwrdd ceir eraill, wrth iddo fo y tro yma golli darn o’i aden flaen yn pasio Jenson Button.

Sutil yn stopio

Erbyn Lap 50, roedd Hamilton yn drydydd. Wrth fynd o gwmpas y gornel olaf fe droellodd ei hen ffrind Adrian Sutil ei Sauber ac yna methu a’i symud. Yn ôl ym Monaco roedd Hamilton yn flin nad oedd ei dîm wedi ei alw i mewn am deiars newydd pan oedd hi’n debyg bod y car diogelwch am ymddangos.

Gyda char Sutil yn llythrennol blocio’r trac roeddynt yn siŵr y byddai’r car yn dod allan, felly aeth Hamilton i’r pits, ychydig laps ynghynt na fyddai wedi fel arall.

Ond yn anhygoel, ni ddaeth y car diogelwch allan! Fe aeth Hamilton felly ar ôl Bottas i geisio selio canlyniad 1-2 i Fercedes.

Am yr ail ras yn olynol, y tu ôl i hyn roedd yna frwydr gyffrous rhwng Red Bull a Ferrari, gyda Ricciardo yn herio Alonso y tro yma.

Mewn diweddglo llawn tensiwn fe lwyddodd Alonso, ac efallai yn fwy anhygoel Bottas, aros ar y blaen. Mae’n debyg bod gyrru diofal Hamilton (a hen deiars ar ôl pitio’n gynharach na’r cynllun) wedi dod yn ôl i’w frathu, gan mae’n debyg bod y downforce oedd wedi’i golli wedi galluogi i Bottas aros o’i flaen.

Ar ôl ras dawel iawn i Rosberg ef oedd yn fuddugol, gyda Bottas ac Hamilton yn haeddiannol iawn y tu ôl iddo ar y podiwm, ac Alonso yn llwyddo cadw Ricciardo y tu ôl iddo yn bedwerydd. Gyrrwr a haeddai sylw yw Magnussen a lwyddodd i orffen yn nawfed ar ôl ei ddamwain gyda Massa ar y dechrau.

Yn y pencampwriaethau, mae Rosberg yn ymestyn ei fantais i 14 pwynt yn nhabl y gyrwyr tra bod Williams yn cymryd trydydd oddi wrth Ferrari ym mhencampwriaeth y timau. Byddai pethau’n well fyth iddynt petawn nhw’n cael dau gar i’r fflag.

Bydd Hamilton yn gobeithio cau’r bwlch i’r brig unwaith yn rhagor y penwythnos yma yn Hwngari, trac cryf iddo ble mae o wedi ennill pedair allan o saith ras.