Gemau Cymru - rhai o bobol ifanc y llynedd
Mae bron 1,000 o bobol ifanc yn paratoi i gymryd rhan yn eu fersiwn Gymreig – a Chymraeg – eu hunain o bencampwriaeth chwaraeon fawr.

Mae hynny’n cynnwys seremoni agoriadol liwgar a’r cyfle i aros mewn pentref athletwyr a chymysgu gyda phobol ifanc eraill o bob math o gampau gwahanol.

Gyda’r Urdd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad ar y cyd â chyrff llywodraethu’r campau, mae Gemau Cymru hefyd yn bencampwriaeth ddwyieithog.

Ar draws Caerdydd

Mae’r seremoni agoriadol yn digwydd brynhawn Gwener yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r cystadlaethau eu hunain mewn pump canolfan chwaraeon genedlaethol a rhyngwladol ar draws Caerdydd.

Y campau ddydd Sadwrn yw athletau, gymnasteg, pêl rwyd, tennis bwrdd a chanŵio tra bydd rhagor o gymnasteg, tennis bwrdd a phêl rwyd ddydd Sul, yn ogystal â chystadlaethau triathlon, aquathlon a rygbi saith bob ochr.

Yn ôl yr Urdd, mae’n cynnig cyfle pellach y tu hwnt i chwaraeon cenedlaethol y mudiad ei hunan, gyda’r goreuon ifanc ym mhob maes yn cymryd rhan a chymryd y ‘cam nesa’.

“Mae’n neis gallu cynnig y cyfle i bobol ifanc fod yn rhan o wyl sawl-camp,” meddai un o’r trefnwyr ar ran yr Urdd, Bethan Rowlands. “Maen nhw’n gallu cael profiadau unigryw fel bod yn rhan o seremoni agoriadol, aros yn y pentref athletwyr, archebu cit, cyngor ffitrwydd ac yn y blaen.”

Dwyieithrwydd yn ‘bwysig’

Cyrff rheoli’r campau sy’n penderfynu ar union reolau a gwobrau pob maes, gan ddewis y goreuon a sicrhau bod y bencampwriaeth yn rhan o lwybr cystadlu’r unigolion.

Yn ôl Bethan Rowlands, mae’r ffurflenni ymateb ar ôl y bencampwriaeth bob blwyddyn yn dangos bod cefnogaeth i’r syniad o ddigwyddiad dwyieithog.

“Ni’n cydweithio’n agos gyda’r cyrff chwaraeon si sicrhau bod unrhyw ddogfennau sy’n cael eu hanfon allan yn ddwyieithog … ni’n rhoi’r gwirfoddolwyr sy’n siarad  Cymraeg mewn roles lle maen nhw’n delio gyda chwsmeriaid,” meddai.

Fe fydd y Gymraeg yn cael lle amlwg yn y seremoni agoriadol hefyd ac mae pobol ddi-Gymraeg yn cael geiriau a dywediadau i’w defnyddio.

Gwneud eu marc

Mae’r bencampwriaeth wedi rhoi cyfle i nifer o bobol sydd bellach yn gwneud eu marc yn genedlaethol:

  • Rygbi saith bob ochr – yn y gystadleuaeth y cafodd Steffan Jones ei weld a chael gwahoddiad i ymuno â thîm Cymru.
  • Athletau – fe fydd yr athletwraig Hannah Bryer yn cystadlu yng Ngêmau Cymru a Gêmau’r Gymanwlad eleni.
  • Tennis Bwrdd – Bellach mae Lydia John, Abertawe, wedi cael ei dewis i garfan Cymru.
  • Canŵio – Fe gafodd dwy gystadleuwraig reolaidd, Isabelle Bush a Megan Bushrod, eu dewis yn aelodau o uwch gynghrair y Deyrnas Unedig dan 14.
  • Triathlon – Aeth Issie Davies a Lucy Dennis yn eu blaenau i ennill arian ym Mhencampwriaethau Prydain.

Yr Amserlen

2:30pm, dydd Gwener, 4 Gorffennaf – Seremoni agoriadol, Llwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru.

Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf

8.30am ymlaen cystadlaethau athletau, gymnasteg, pêl rhwyd, tennis bwrdd  a chanŵio yn Stadiwm Rhyngwladol Chwaraeon Caerdydd, Canolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru, Canolfan Athletau Dan Do Prifysgol Metropolotaidd Caerdydd a Chanolfan Ryngwladol Dŵr Gwyn Caerdydd

Dydd Sul, 6 Gorffennaf

8.30am ymlaen cystadlaethau gymnasteg, triathlon ac aquathlon, rygbi 7 bob ochr, tenis bwrdd a phêl rhwyd yng Nghanolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru, Canolfan Hamdden Maendy, Stadiwm Rhyngwladol Chwaraeon Caerdydd a Canolfan Athletau Dan Do Prifysgol Metropolotaidd Caerdydd

Mae’r digwyddiadau yn agored i’r cyhoedd.