Lewis Hamilton Llun: Gaz Maz
Phil Kynaston sydd yn crynhoi hanes y penwythnos…

Mae’r bwlch rhwng Nico Rosberg a’i gyd-yrrwr Mercedes, Lewis Hamilton wedi cynyddu ar ôl i’r gyrrwr o’r Almaen guro Hamilton yn Grand Prix Awstria dros y penwythnos.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Rosberg yn parhau â’i record o orffen yn y ddau safle uchaf ym mhob ras y tymor hwn, mewn tymor ble mae Mercedes i’w weld yn gryfach na’i gwrthwynebwyr er i Williams berfformio’n dda yn y rhagbrawf.

Y rhagbrawf

Ar ymweliad cyntaf F1 ag Awstria ers 2003, ar drac sydd rŵan wedi ei enwi’n Red Bull Ring (ar ôl i’r cwmni diodydd ei brynu), nid oedd y cwrs yn rhy glên i’w berchnogion wrth i yrwyr Red Bull siomi yn y rhagbrawf.

Enillydd Canada, Daniel Ricciardo, oedd y gorau o’r ddau wrth iddo gipio pumed safle ar y grid. Roedd hwn yn well na’i gyd-yrrwr, Sebastian Vettel a fethodd i gyrraedd Q3 wrth iddo orffen yn y 13eg safle.

Cafwyd elfen o karma tuag at ddiwedd y sesiwn olaf wrth i Hamilton droelli’i gar ac achosi fflag felen a wnaeth orfodi Rosberg i arafu ac felly methu cystadlu ar gyfer y safle cyntaf ar y grid ac yn dechrau’r ras yn drydydd.

Serch hynny, ei gyd-yrrwr oedd i’w weld wedi’i effeithio gan y fflag felen. Doedd Hamilton heb osod amser ac felly’n dechrau’r ras yn y nawfed safle.

Am y tro cyntaf yn 2014, nid yn unig oedd yr un car Mercedes ar y blaen, ond roedd y rhes flaen wedi’i gymryd gan dîm arall – Williams. Y gyrrwr o Frasil Felipe Massa oedd ar y blaen gyda’i gyd-yrrwr, Valteri Bottas, wrth ei ochr.

Embaras Red Bull

Ar ôl ei rhagbrawf siomedig, fe ddechreuodd Hamilton yn wych wrth iddo basio pedwar car yn y ddau gornel agoriadol ac roedd yn bedwerydd erbyn diwedd y lap cyntaf tu ôl i Rosberg.

I ychwanegu at gyffro agoriadol y ras, fe ddechreuodd Vettel yn wael. Cymaint felly bod hi’n ymddangos bod ei ras ar ben – erbyn i’w gar ddod nôl yn fyw roedd Vettel lap cyfan y tu ôl i bawb.

Nid am y tro cyntaf y tymor yma, cafwyd ansicrwydd strategaeth o fewn tîm Williams wrth iddynt beidio ag ymateb i Mercedes yn pitio’u ceir nhw. Erbyn i Massa a Bottas bitio, roeddynt wedi disgyn tu ôl y ddau Mercedes a Sergio Perez.

Gyrrwr Toro Rosso, Daniil Kvyat, oedd y cyntaf i ymddeol wrth i hongiad y car dorri. Vettel oedd yr ail ar ôl i’r tîm benderfynu nad oedd pwynt iddo barhau a’r ras a rhoi straen ar rannau o’r uned bŵer gyda’r gyrrwr lap tu ôl i bawb. Yn anochel, mi fydd yna gosbau grid iddo yn hwyrach yn y tymor.

I gwblhau embaras Red Bull, Jean-Eric Vergne oedd y trydydd i ymddeol o’r ras gyda phroblemau brêc.

Nico Rosberg gipiodd ei drydedd fuddugoliaeth y tymor hwn wrth iddo ennill y ras dim ond 1.9 eiliad o flaen Hamilton. Bottas gymerodd y trydydd safle ar ôl iddo gael y gorau o’i gyd-yrrwr Massa.

Er i Hamilton wneud yn dda i ddringo i’r ail safle ar ôl rhagbrawf siomedig, mae o rŵan 29 pwynt tu ôl i’w gyd-yrrwr yn y ras am y bencampwriaeth. Bydd rhaid iddo gychwyn rhediad cryf o fuddugoliaethau yn y rasys nesaf i ddal lan gyda Rosberg.

O leiaf bydd gan Hamilton gefnogaeth y dorf gartref yn ras nesaf y tymor wrth i F1 ymweld â Silverstone.