Non Stanford
Bydd pencampwraig triathlon y byd Non Stanford yn colli Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow oherwydd anaf.

Daeth cadarnhad bod Stanford wedi torri asgwrn yn ei throed chwith.

Cafodd Stanford, un o obeithion gorau Cymru am fedal, ei chynnwys yng ngharfan Cymru er iddi anafu ei throed chwith ym mis Mawrth.

Carol Bridge fydd nawr yn ymuno a’r tim yn ei lle.