Non Stanford
Helen Jenkins a Non Stanford sydd wedi eu henwi fel dwy o’r chwe athletwr fydd yn cystadlu yn nhîm triathlon Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.

Fe enillodd Jenkins, sy’n dod o Ben-y-bont, Bencampwriaeth ITU y Byd yn 2011 gyda Stanford, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn ennill yn 2013.

Yn ymuno a nhw ar y tîm i gystadlu yn Glasgow fydd Holly Lawrence, 23, Morgan Davies, 19, Liam Lloyd a Alex Matchett, 21.

“Mae’r ddwy athletwr byd Non a Helen, yn llysgennad grêt i Gymru  ac yn ysbrydoliaeth i’n holl athletwyr,” meddai Beverley Lewis, Rheolwr Cyffredinol Triathlon Cymru.

“Ac mi fydd gwylio ein haelodau ieuengaf, Holly, Morgan, Liam ac Alex yn gyffrous iawn.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru, Chris Jenkins: “Mae’n grêt fod triathlon Cymru yn ôl yn y gystadleuaeth. Mae’n weithgaredd yr ydym yn rhagori ynddi a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld yr athletwyr yn cystadlu.”