Jamie Donaldson
Mae’r golffiwr o Gymru, Jamie Donaldson, yn y degfed safle yng nghystadleuaeth y Meistri yn Augusta.

Sgoriodd rownd o 70 ar yr ail ddiwrnod o chwarae sy’n golygu ei fod chwe ergyd y tu ôl i’r golffiwr sydd ar y brig ar hyn o bryd, yr Americanwr Bubba Watson.

Mi roedd pethau’n edrych yn addawol i Jamie ar ôl y naw twll cyntaf ond yn anffodus fe gollodd ergydion ar ddau o’r naw twll olaf.

Ni wnaeth  y Cymro arall yn y gystadleuaeth, Ian Woosnam, lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth ar ôl cael sgôr o 73 ar yr ail ddiwrnod.