Pineau de Re
Pineau de Re, ceffyl sy’n cael ei hyfforddi gan feddyg teulu, sydd wedi ennill ras y Grand National eleni.

Mi wnaeth y ffefryn, Teaforthree, sy’n cael ei hyfforddi gan  Rebecca Curtis o Drefdraeth, Sir Benfro, ddisgyn wrth geisio neidio’r ffens fwyaf ar y cwrs.

Balthazar King oedd yn ail, a Double Seven oedd yn drydydd.

Roedd Pineau de Re yn cael ei farchogaeth gan y joci Leighton Aspell, sy’n 37 oed a’i hyfforddwr yw Dr Richard Newland oedd wrth ei fodd ar ddiwedd y ras.

Fe ddisgynnodd nifer o geffylau yn ystod y ras, ond mae’n ymddangos nad oedd yr un ohonyn nhw wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.