Enzo Maccarinelli
Mae Enzo Maccarinelli yn targedu gornest yn erbyn Nathan Cleverly ar ôl penderfynu parhau gyda’i yrfa bocsio yn yr adran is-drwm.

Roedd y Cymro wedi ystyried ymddeol o’r sgwâr ar ôl cael ei lorio gan Alexander Frenkel ym mis Awst a cholli ei goron Ewropeaidd.

Ond mae cyn-Bencampwr Cruiserweight y Byd yn gwrthod rhoi’r gorau i’w yrfa ac mae o wedi disgyn adran er mwyn ceisio cynnal ei yrfa.

“Rwy’n awyddus i barhau i focsio er fy mod i wedi gwneud rhai camgymeriadau yn y gorffennol,” meddai Enzo Maccarinelli.

“R’yn ni wedi cael bocswyr Cymreig da dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae ers i Calzaghe ymddeol mae pethau wedi arafu rhywfaint.

“Ond mae yna fois ifanc yn dod trwyddo nawr ac rydw am ddychwelyd i focsio yn yr adran is-drwm. Mae’r awydd dal gen i.”

Fe allai penderfyniad Maccarinelli i ddal ati olygu y bydd yn herio Cleverly yn y sgwâr yn y dyfodol.

Ond fe fydd Nathan Cleverly yn wynebu Juergen Braehmer yn Llundain ym mis Mai yn y gobaith o gipio coron y byd oddi ar yr Almaenwr.