Georgia Davies
Mae’r saith enw cyntaf fydd yn rhan o dîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow’r flwyddyn nesaf wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r saith enw yn cynnwys Jazz Carlin, Jemma Lowe a Georgia Davies, sydd oll wedi ennill medalau yn y Gemau yn y gorffennol.

Ar y rhestr a gafodd ei gyhoeddi gan Gemau’r Gymanwlad Cymru a Nofio Cymru hefyd mae Tom Haffield, Robert Holderness, Ieuan Lloyd a Marco Loughran.

Golygu llawer

Jazz Carlin oedd y cyntaf o Gymru i gipio medal yn Gemau Dehli yn 2010, gan ennill aur yn y nofio rhydd 200m, ac fe fydd hi’n cystadlu yn ei thrydydd Gemau.

Methodd a chael ei dewis ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 ond llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaethau’r Byd yn 2013.

“Dwi wir yn edrych ymlaen at nofio dros Gymru’r haf nesaf,” meddai Carlin.

“Mae Gemau’r Gymanwlad wastad yn ddigwyddiad gwych a dyma’r unig dro gawn ni gystadlu dros Gymru felly mae’n golygu llawer.”

Tîm cryfa’ erioed

Roedd Georgia Davies, Jemma Lowe, Ieuan Lloyd a Marco Loughran i gyd wedi cystadlu yn Gemau Olympaidd Llundain y llynedd, ac fe gipiodd Davies fedal efydd yn y nofio cefn 50m yn Gemau Dehli yn 2010.

Llwyddodd Ieuan Lloyd, 20 oed o Benarth, i ennill pum medal, gan gynnwys tair medal aur, yn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2011 yn Ynys Manaw.

“Hwn fydd y tîm Cymreig cryfaf erioed i ni ddanfon i Gemau’r Gymanwlad,” meddai Prif Hyfforddwr a Rheolwr Perfformiad Nofio Cymru, Martyn Woodroffe.

“Mae ‘na gymysgedd dda o nofwyr profiadol ac wynebau newydd fydd yn gobeithio creu argraff ar y podiwm.”

Cadarnhaodd Woodroffe y byddai mwy o enwau’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf wrth i’r Gemau agosáu.