Andrew Selby
Roedd hi’n ddiwrnod cymysg i focswyr Cymru ym Mhencampwriaethau’r Byd yng Nghasacstan heddiw, gydag Andrew Selby yn unig yn llwyddo i gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Enillodd Selby ei ornest yn y categori pwysau plu-ysgafn (52kg) yn erbyn y gŵr lleol Ilyas Suleimenov, ond fe gollodd y pwysau welter Fred Evans (68kg) yn rownd yr wyth olaf unwaith yn rhagor.

Cyn i Selby ennill, doedd yr un Casac wedi colli gornest yn Almaty ac felly roedd pryderon ymysg rhai ynglŷn â’r sgorio, ond ar ôl colli’r rownd gyntaf daeth y gŵr o’r Barri yn ôl ar y droed flaen a gwneud bywyd yn galed i’w wrthwynebwr, cyn i ddau o’r tri dyfarnwr roi buddugoliaeth iddo.

Bydd Selby nawr yn wynebu Jasurbek Latipov o Wsbecistan ddydd Gwener.

Siom i’r Cymry eraill

Doedd Evans ddim mor lwcus wrth iddo golli’n gyfforddus i’r Almaenwr Arajik Marutjan, a boenydiodd Evans gyda’i ergydion llaw dde drwy gydol yr ornest, gyda’r tri dyfarnwr yn unfrydol yn eu dyfarniad.

Yn gynharach yn y Bencampwriaeth roedd Ashley Williams yn y pwysau plu-ysgafn (49kg) yn anlwcus i orfod tynnu allan o’r gystadleuaeth yn rownd yr 16 olaf.

Llwyddodd i oresgyn Muthukarage Malith Prabashwara o Sri Lanka yn y rownd gyntaf ond cafodd anaf i’w lygad oedd yn golygu nad oedd yn cael ymladd yn y rownd nesaf.

Collodd Joe Cordina y pwysau ysgafn (60kg), Sean McGoldrick y pwysau bantam (56kg) a Zack Davies y pwysau welter-ysgafn (64kg) yn eu rowndiau cyntaf hefyd.