Agorwyd gemau Cymru 2013 yn swyddogol ar nos Wener yng Nghanolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru, gyda dros 1,000 o blant yn cymeryd rhan dros y penwythnos. Dros y penwythnos bu hefyd un tîm ar bymtheg yn cystadlu yn y gamp rygbi atomig, a’r rhain yn dimau cymysg o fechgyn a merched.

Ar hyn o bryd dim ond yng Nghymru y caiff y gamp newydd hon ei chwarae, ac roedd y gystadleuaeth yng Ngemau Cymru y penwythnos yma yn un o’r unig achlysuron prin y cai’r timoedd i gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cystadleuaeth.
Nod cynnal cystadleuaeth o’r fath yw paratoi chwaraewyr ifanc ym myd rygbi cyffwrdd ar gyfer Cwpan Rygbi Cyffwrdd y Byd a gaiff ei gynnal yn Awstralia yn 2015.

Beth yw Rygbi Atomig?

Mae’n gyfuniad o rygbi cyffwrdd a phêl droed americanaidd. Gallai gael ei chwarae y tu mewn neu tu allan ond y gwahaniaeth mwyaf yn y gamp hon yw y cewch basio y bêl ymlaen ynghŷd â’i basio yn ôl.

Beth sy’n wahanol?

Yn hytrach nac saith neu bymtheg chwaraewr mewn tîm, caiff tîm Rygbi Atomig eu greu o ddeg chwaraewr gydag ond pump yn cael bod ar y cae ar yr un pryd. Mae’r cae gryn dipyn yn llai hefyd wrth i’r man chwarae gael ei fesur 30 metr o hyd a 15 metr o led. O ran amser mae’n gêm tipyn llai o hyd o’i chymharu a gêm Rygbi’r Undeb. Caiff ei chwarae mewn chwarteri o chwe munud yr un gyda munud o seibiant rhwng pob chwarter.

Cyflweliad gyda’ un or timau