Mae’r chwaraewr snwcer Matthew Stevens wedi cyrraedd ffeinal pencampwriaeth Haikou yn Tsieina.

Dyma’r tro cyntaf ers pum mlynedd i Stevens, sy’n 25 oed ac yn dod o Gaerfyrddin, lwyddo i gyrraedd ffeinal unrhyw gystadleuaeth.

Fe gurodd Neil Robertson o Awstralia o chwe ffrâm i bump i sicrhau ei le.

Mi roedd ’na dipyn o ddadlau yn ystod y gêm ar ôl i’r dyfarnwr Eirian Williams ailosod y peli yn anghywir yn dilyn ffowl gan Stevens yn y bedwaredd ffrâm. Enillodd Robertson y ffrâm honno gan ddod â’r gêm yn gyfartal 2-2.