Mae Cymru wedi curo yr Alban yn Murrayfield o 18-11.

Y sgôr ar yr hanner cyntaf oedd 15-6 a dim ond triphwynt y sgoriodd Cymru yn yr ail hanner wrth i’r Alban fynd amdani go iawn.

Sgoriwyd ceisiau Cymru gan Josh Adams a Jonathan Davies.

Disgrifiodd y sylwebydd Jonathan Davies y gêm fel un o ddau hanner gwahanol. Dywedodd fod gan Gymru “hyder yn yr amddiffyn” er nad oedd y chwaraewyr wedi cael llawer o’r bêl.

Dengys yr ystadegau fod Cymru wedi taclo eu gwrthwynebwyr 140 o weithiau yn yr ail hanner.

Golyga’r fuddugoliaeth heddiw y bydd Cymru gam yn nes at sicrhau’r Gamp Lawn, gydag un gêm yn weddill yn erbyn Iwerddon ar benwythnos olaf y bencampwriaeth.

Yn y cyfamser, ennillodd merched Cymru oddi cartref yng Nglasgow nos Wener gan guro merched Yr Alban 15-17. Collodd tîm Dan Ugain dynion Cymru o 27-20 yng Nghaeredin.