Cymro arall fydd yn amddiffyn ei goron yn ystod y flwyddyn nesaf yw’r chwaraewr snwcer, Mark Williams.

Fe sicrhaodd y cymeriad o’r Cwm ger Glynebwy, ei drydedd fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Byd yn Sheffield ar ôl ennill 18 ffrâm i 16 yn erbyn John Higgins ddechrau Mai 2018.

Roedd y fuddugoliaeth honno yn y Crucible yn golygu mai Mark Williams yw’r dyn hynaf i ennill y tlws ers Ray Reardon yn 1978.

Diddorol fydd gweld os y medr Mark Williams gadw ei lygaid ar y bêl yn 2019 pan mae’r bencampwriaeth yn dechrau eto ar Ebrill 20.