Heddiw, Dydd Llun, Rhagfyr 31 rhoddodd fyfyrwyr Met Caerdydd wers dîm talentog Y Barri gan eu curo o 3-0 gartref yng Nghyncoed.

Ddoe, (dydd Sul, Rhagfyr 30) fe gurodd Y Drenewydd Aberystwyth o 2-1 ar Barc Latham.

Ddydd Sadwrn (Rhagfyr 29) llwyddodd Llandudno i rannu’r pwyntiau gyda Chaernarfon ar gae’r Oval gyda’r sgor terfynol yn 3-3.

Maen amlwg fod pethau’n poethi yn Uwch Gynghrair Cymru wrth i’r tîmau eraill wella eu safon a cheisio efelychu llwyddiant y Seintiau Newydd.