Mae Morgannwg wedi colli o fatiad a 30 rhediad yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

Roedden nhw’n 79 am saith ar ddechrau’r diwrnod, a chwympodd eu tair wiced olaf o fewn hanner awr, wrth i Chris Rushworth gipio pob un ohonyn nhw am 19 rhediad.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm allan o saith yn y gystadleuaeth.

Manylion y trydydd diwrnod

Ar ôl dechrau’r trydydd diwrnod ar 79 am saith, doedd hi ddim yn hir cyn i Forgannwg golli eu wiced gyntaf.

Tarodd Chris Rushworth goes Craig Meschede o flaen y wiced am wyth ym mhedwaredd belawd y diwrnod, a Morgannwg yn 95 am wyth. Ac roedden nhw’n 101 am naw pan gafodd Lukas Carey ei fowlio gan yr un bowliwr yn ei belawd ganlynol am un.

Ac fe ddaeth y gêm i ben pan gafodd Michael Hogan ei fowlio gan Chris Rushworth am chwech, a Morgannwg i gyd allan am 111. Gorffenodd y bowliwr gyda phum wiced am 28.

Yr ail ddiwrnod

Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf pan gafodd Nick Selman ei ddal gan y wicedwr Stuart Poynter oddi ar fowlio Barry McCarthy am 26, a’r sgôr yn 31 am un.

Dair pelawd yn ddiweddarach, roedd Morgannwg yn 33 am ddwy pan gafodd y wicedwr ei ail ddaliad i waredu Jack Murphy oddi ar fowlio Chris Rushworth am saith.

Dwy belawd a dau rediad yn ddiweddarach, collodd y Cymry eu trydedd wiced wrth i Kiran Carlson gael ei fowlio gan Chris Rushworth am ddau.

Ac fe ddaeth y bedwaredd wiced wrth i Stuart Poynter a Barry McCarthy gyfuno unwaith eto i waredu David Lloyd am bedwar, a’r sgôr yn 40 am bedair.

Roedden nhw’n 54 am bump pan gafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Axar Patel am ddau.

Wrth i’r golau bylu, fe wnaeth yr ymwelwyr droi at y troellwr Cameron Steel, ac fe gipiodd e wiced Connor Brown oddi ar ei belen gyntaf am 18, wrth i’r batiwr roi daliad syml i’r wicedwr, a Morgannwg yn 64 am chwech.

Roedden nhw’n 70 am saith pan darodd Cameron Steel goes Andrew Salter o flaen y wiced am bedwar.

Batiad Swydd Durham

Yn gynharach yn y dydd, cipiodd Ruaidhri Smith bum wiced i Forgannwg.

Gorffenodd e gyda phum wiced am 87 – ffigurau gorau ei yrfa mewn gêm dosbarth cyntaf i’r sir, wrth i Swydd Durham gael eu bowlio allan am 295.

Ar ôl dechrau’r dydd ar 75 heb golli wiced, cafodd Cameron Steel ei fowlio am 32 gan y bowliwr sy’n cynrychioli’r Alban, a’r sgôr yn 94 am un. Collodd Gareth Harte ei wiced yntau yn yr un modd am 13, a’r sgôr yn 112 am ddwy.

Tarodd Craig Meschede goes Alex Lees o flaen y wiced am 69, a’r sgôr yn 124 am dair cyn i Ruaidhri Smith gipio’i drydedd wiced wrth i Michael Richardson gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am naw.

Daeth ei bedwaredd wiced pan gafodd Graham Clark ei ddal gan Nick Selman am 11, a’r sgôr yn 144 am bump. Tarodd Craig Meschede goes Paul Collingwood o flaen y wiced am wyth gyda’r sgôr yn 158 am chwech.

Cipiodd Ruaidhri Smith ei bumed wiced pan gafodd Stuart Poynter ei ddal yn y slip gan David Lloyd am 29, a’r sgôr erbyn hynny’n 219 am saith.

Cafodd Barry McCarthy ei redeg allan gan Craig Meschede am bedwar wrth i Swydd Durham gyrraedd 237 am wyth.

Partneriaeth bwysig

Adeiladodd Matt Salisbury ac Axar Patel 47 am y nawfed wiced cyn i Salisbury gael ei fowlio gan Michael Hogan am chwech, a’r sgôr wedyn yn 284 am naw.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Chris Rushworth ei fowlio gan Michael Hogan am bedwar, a Swydd Durham i gyd allan am 295 erbyn amser te – mantais batiad cyntaf o 141. Roedd Axar Patel heb fod allan ar 95. Adroddiad diwrnod 1