Mae tri o glybiau pêl-droed Cymru yn gobeithio am newyddion da heddiw (dydd Iau, Ebrill 26).

Mae swyddogion Bangor a Chei Connah o Uwch Gynghrair Cymru a Llanelli o Gynghrair y De wedi bod yn gweithio’n galed ers y daeth y newyddion ddechrau’r mis bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwrthod eu ceisiadau am y drwydded ddomestig angenrheidiol.

Roedd y tri chlwb wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ac mae’r gwrandawiadau yn cael eu clywed heddiw yng Nghaerdydd.

Mae naw clwb wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau trwydded rheng un y Gymdeithas a thrwydded UEFA ar gyfer tymor 2018/19, sef:

  • Aberystwyth
  • Y Bala
  • Y Barri
  • Met Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Derwyddon Cefn
  • Llandudno
  • Y Drenewydd
  • Y Seintiau Newydd

Roedd pum clwb wedi sicrhau trwydded rheng un Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy’n eu gwarantu i chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn ystod tymor 2018/19, sef:

  • Airbus
  • Caernarfon
  • Y Fflint
  • Hwlffordd
  • Y Rhyl

Mae cael trwydded yn orfodol cyn y gall clybiau gystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru, ac mae’r drwydded UEFA yn caniatáu’r clybiau i allu chwarae yn Ewrop.

Mae’n gymhleth… 

Mae Bangor yn cwrdd â Chei Connah nos Wener lle bydd yr enillydd yn gorffen yn ail yn y Gynghrair ac yn ennill ei le yn Ewrop y tymor nesaf. Mae Llanelli wedi ennill pencampwriaeth y De, ac mae’n bosib y bydd Lee Trundle yn chwarae unwaith eto yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Bangor yn cael ei adnabod fel un o gewri pêl-droed y gogledd, ac mi fyddai hi’n ergyd i’r clwb a’i gefnogwyr a’r gynghrair pe na baen nhw’n gallu sicrhau’r drwydded.

Pe bai Bangor a Chei Connah’n llwyddo i gael y drwydded a Llanelli’n methu, fe fydd Hwlffordd yn cymryd lle Llanelli pe bai nhw’n gorffen yn ail yng Nghynghrair y De.

Pe bai un o glybiau’r gogledd yn methu, fe fyddai clwb Caerfyrddin yn cadw ei le yn y Gynghrair… sefyllfa gymhleth, a bydd y clybiau yn cael gwybod eu ffawd heddiw, pan fydd y panel annibynnol yn cyhoeddi ei benderfyniad.