Mae Tîm Cymru bellach wedi ennill 22 medal yng Ngemau’r Gymanwlad yn yr Arfordir Aur.

Yn dilyn diwrnod llwyddiannus arall, mae gan y Cymry bellach saith medal aur, wyth arian a saith efydd.

Daw hyn ar ôl i’r saethwr, David Phelps, gipio’r seithfed medal aur i Dîm Cymru yn y gystadleuaeth saethu reiffl 50m, gan osod record newydd ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

Fe lwyddodd Gareth Morris a Christ Watson i ennill y fedal arian yn y cwrt saethu hefyd, a hynny yng nghystadleuaeth y parau.

Yn y pwll nofio, daeth llwyddiant i Dan Jarvis a gipiodd y fedal arian yn y nofio 1500m dull rhydd, ac fe gafodd Georgia Davies y fedal efydd yn y nofio 50m dull cefn.

Daeth medal efydd arall i ran y tîm a oedd yn cystadlu yn y ras gynhenid 4x100m dull cymysg, gyda’r tîm hwnnw yn cynnwys Georgia Davies, Alys Thomas, Chloe Tutton a Kathryn Greenslade.

Daeth y diwrnod i ben wedyn gyda’r athletwraig Melissa Courtney yn ennill y fedal efydd yn y ras 1500m.

Roedd disgwyl i Jazz Carlin gystadlu yn y gystadleuaeth nofio 400m dull rhydd, ond fe benderfynodd beidio â chystadlu ar ôl iddi orffen yn chweched yn y ras 800m dull rhydd ddydd Llun.