Mae’r saethwr David Phelps wedi ennill y seithfed medal aur i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, wedi iddo ennill y gystadleuaeth saethu reiffl 50m.

Fe lwyddodd y gŵr 41 oed o Gaerdydd osod record newydd Gemau’r Gymanwlad hefyd, gan sicrhau 248.8 o bwyntiau wrth iddo gystadlu yn erbyn yr Albanwr Neil Stirton.

Fe lwyddodd Gareth Morris a Chris Watson i gipio’r fedal arian yn y gawell saethu hefyd, a hynny yng nghystadleuaeth y parau.

Llwyddiant y Cymry

Hyd yn hyn, mae Tîm Cymru wedi cipio cyfanswm o 18 medal, sef saith aur, saith arian a phedair efydd.

Maen nhw ar hyn o bryd yn seithfed yn nhabl y medalau, gydag Awstralia ar y blaen gyda chyfanswm o 108 medal, a Lloegr yn ail gyda 70 medal.

Mewn cystadlaethau eraill, roedd disgwyl i’r nofwraig Jazz Carlin gystadlu yn y nofio 400m dull rhydd yn ddiweddarach heddiw, ond mae wedi penderfynu peidio â chystadlu.

Ddydd Llun, fe ddaeth yn chweched yn y ras 800m dull rhydd – y gystadleuaeth a enillodd hi yn 2014.