Mae modiwl chwaraeon newydd wedi ei lansio gan Gomisiynydd y Gymraeg a chorff Chwaraeon Cymru, yn annog arweinwyr chwaraeon cymunedol i ddefnyddio gymaint o Gymraeg ag y gallan nhw ar y meysydd chwarae.

Mae’r chwaraewyr rygbi cenedlaethol Rhys Patchell a Ken Owen; a hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, yn cefnogi’r fenter, yn ogystal â’r comedïwr o Gaerdydd Mike Bubbins. Mae Mike Bubbins yn ddysgwr Cymraeg ac yn defnyddio gymaint o Gymraeg ag y gall wrth hyfforddi tîm o dan 8 Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.

“Dw i’n meddwl fod rhieni’r plant sy’n siarad Cymraeg yn gwerthfawrogi os ydych yn gwneud ymdrech i siarad Cymraeg gyda nhw,” meddai Mike Bubbins.

“Y broblem fwyaf sydd gan bobl yw ofn gwneud ffŵl ohonyn nhw ei hunain – mi fyddwn i yn dweud wrthyn nhw beidio poeni am hynny!”

Cymraeg i Griced Cymru 

Un o’r cyrff llywodraethu fydd yn cynnwys y modiwl yn eu rhaglen hyfforddi o fis Ebrill ymlaen yw Criced Cymru.

“Mae 20% o glybiau criced yng Nghymru eisoes yn hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Peter Hybart, Prif Weithredwr Criced Cymru.

“Rydyn ni wedi datblygu’r modiwl hyfforddi newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg gan ein bod ni’n credu y bydd rhoi tips a hyder i’n hyfforddwyr i ddefnyddio’r iaith yn arwain at hyd yn oed fwy o Gymraeg mewn clybiau.

“Wrth symud ymlaen i’r tymor newydd byddwn yn hyrwyddo’r modiwl ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ei gynnwys yn ein pecynnau datblygu hyfforddwyr.”