Wilfried Bony (Richard Mulder CCA3.0)
Mae pryderon ynghylch sawl chwaraewr allweddol yng ngharfan bêl-droed Abertawe ar drothwy ymweliad Huddersfield â Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Prinder goliau yw prif wendid yr Elyrch y tymor hwn, a fydd hynny ddim yn gwella ddydd Sadwrn gyda’r newyddion bod amheuon a fydd yr ymosodwr Wilfried Bony yn holliach i ddechrau’r gêm.

Yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement, “50-50” yw ei obeithion y bydd ei brif fygythiad o flaen y gôl ar gael ar ôl anafu ei goes yn ystod yr egwyl am gemau rhyngwladol, pan oedd e i fod i gynrychioli’r Côte d’Ivoire.

Y newyddion da yw fod y chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng yn ffit unwaith eto.

Ofn anaf tymor hir

Yn ôl Paul Clement, roedd y clwb a’i wlad yn fodlon fod Wilfried Bony yn ffit i chwarae mewn gêm ryngwladol, ond fe dynnodd e’n ôl ar yr unfed awr ar ddeg.

Ychwanegodd Paul Clement: “Fe ddaeth e’n ôl a chael triniaeth am ychydig ddiwrnodau a chael dychwelyd yn raddol, ac fe ymunodd e â’r criw unwaith eto heddiw. Dyna lle’r ’yn ni arni.

“Fe fydda i’n siarad â’r staff meddygol a gyda Wilfried i gael gweld sut mae e’n teimlo ac a yw e’n credu y gall e gyfrannu ar y penwythnos.”

Ond fe gyfaddefodd y gallai’r anaf fod yn un tymor hir.

Ond newyddion da am Ki

Er yr holl anafiadau, mae Paul Clement yn gobeithio y bydd y chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng ar gael ddydd Sadwrn yn dilyn anaf i’w ben-glin.

Fe lwyddodd e i chwarae dros Dde Corea yn erbyn Rwsia a Moroco ganol yr wythnos ac yn ôl Paul Clement, mae e’n chwaraewr allweddol i’r Elyrch.

“Mae e’n chwaraewr da iawn. Yn fy marn i, mae e’n chwaraewr sy’n cael ei danbrisio, nid gen i ond o safbwynt rhai o’r pethau dwi wedi eu gweld ar bapur amdano fe.

“Mae e’n gryf ac yn athletaidd, mae e’n chwaraewr technegol godidog a dw i’n falch ei fod e’n holliach eto. Fe weloch chi ddiwedd y tymor diwethaf pa mor bwysig oedd e.”

Sanches a Dyer

Mae amheuon hefyd am y chwaraewr canol cae ifanc o Bortiwgal, Renato Sanches, sydd ar fenthyg o Bayern Munich.

Mae yntau wedi anafu ei forddwyd yn ystod y cyfnod rhyngwladol, ond mae Paul Clement yn ffyddiog y bydd e ar gael ar gyfer ymweliad Caerlŷr ag Abertawe yr wythnos nesaf.

Fe fu adferiad Nathan Dyer yn arafach na’r disgwyl ar ôl iddo fe anafu gweyllen y ffêr ac yn ôl Paul Clement, dydy e ddim yn barod i chwarae gêm lawn ar hyn o bryd, er ei fod e wedi gwneud sawl ymddangosiad i’r tîm dan 23.

“Y peth ar y lefel yma yw dwyster y bêl-droed ac ymdopi gyda hynny,” meddai. “Mae e’n dod â dimensiwn arall oherwydd mae’n dal i fod yn gyflym, mae’n gallu rhedeg gyda’r bêl a churo chwaraewyr. Bydd e’n bwysig wrth symud ymlaen, gan obeithio y gall e ymarfer a sgorio goliau.”