Tony Pulis (Llun o Wilipedia CCA 3.0)
Mae Prif Hyfforddwr clwb West Bromwich Albion, wedi gwadu ei fod yn llygadu swydd Rheolwr tîm pêl droed Cymru.

Mae Tony Pulis, 59, yn enedigol o Gasnewydd ac mae’n ddewis poblogaidd i olynu bos presennol Cymru, Chris Coleman. 

Methodd tîm Cymru ag ennill ei le yng Nghwpan y Byd 2018 wedi iddo golli 0-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd, ddydd Llun yr wythnos hon (Hydref 9).

Mae Chris Coleman eisoes wedi dweud ei fod yn ystyried ei ddyfodol â’r tîm, ond mae Tony Pulis wedi gwrthod y sïon.

“Amser sy’n mendio briw” 

“Dw i’n ddigon hapus lle’r wyf i ar hyn o bryd,” meddai Tony Pulis. “A dw i ddim yn credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n siarad am rywun sydd o hyd yn dal y swydd.

“Mae Chris wedi gwneud jobyn ffantastig ac mi fydd e’n hynod o siomedig ar hyn o bryd – yn union fel gweddill y genedl. Does yna ddim byd fel amser i fendio briw, ac fe gawn ni weld yr hyn fydd Chris yn ei wneud dros y misoedd nesaf.”