Mae Clwb Pêl-droed Caerau ger Maesteg wedi cael hwb wrth arwyddo cyn-ymosodwr Lloegr, Paul Merson.

Ac yntau’n 49 oed erbyn hyn, mae’n wyneb ac yn llais cyfarwydd fel dadansoddwr ar Sky Sports.

Mae disgwyl iddo chwarae yn ei gêm gyntaf yn erbyn Pontyclun wythnos i heno (Hydref 18), gan na fydd e ar gael ar gyfer taith y tîm i Neuadd Wen ddydd Sadwrn oherwydd ei ymrwymiadau darlledu.

Mae Caerau’n chwarae yn y Drydedd Adran yn y gynghrair.

Daw ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb bum mlynedd ar ôl iddo fe sgorio gôl i’r Trallwng, a chwe blynedd ar ôl ei ymddeoliad o bêl-droed proffesiynol.

Chwaraeodd e dros Loegr 21 o weithiau, ac fe chwaraeodd e dros glybiau Arsenal, Middlesbrough ac Aston Villa.

Mae Caerau wedi ennill tair gêm ac wedi colli pedair y tymor hwn, ac maen nhw’n drydyd ar ddeg yn y tabl.