Marchant de Lange
Fe fydd Morgannwg yn dechrau trydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth heddiw ar ei hôl hi o 40 o rediadau yn erbyn Swydd Northampton yn eu hail fatiad yng Nghaerdydd.

Fe fu cryn oedi oherwydd y glaw cyn gallu dechrau’r ail ddiwrnod ac ar ôl ail-ddechrau ar 59-2, batiodd Swydd Northampton yn gadarn wrth i Richard Levi daro cyfres o ergydion i’r ffin.

Fe ddylai fod wedi cael ei ddal gan Kiran Carlson ar ochr y goes oddi ar Lukas Carey, ond aeth y bêl i lawr cyn i’r batiwr fynd ymlaen i sefydlu partneriaeth gyda Rob Newton, oedd wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 95 o belenni wrth i’r Saeson orffen y sesiwn ar 137-2.

Partneriaethau pwysig

Cyrhaeddodd Richard Levi ei hanner canred ar ôl cinio oddi ar 48 o belenni cyn i Michael Hogan daro coes Rob Newton o flaen y wiced am 67 i ddod â phartneriaeth bwysig o 104 i ben.

Cafodd Rob Keogh ei ddal ar ochr y goes gan Craig Meschede oddi ar belen anghyfreithlon gan y troellwr Andrew Salter ac fe gafodd yr ymwelwyr bwynt bonws wrth gyrraedd 200, a Levi a Keogh erbyn hynny wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant.

Cyrhaeddodd Levi ei drydydd canred i’r sir – ei gyntaf eleni – oddi ar 97 o belenni ond fe gafodd ei ddal yn fuan wedyn gan y wicedwr Chris Cooke am 101 yn dilyn partneriaeth o 88 gyda Keogh. Roedd yr ymwelwyr yn 248-4 erbyn amser te.

…ond Morgannwg yn taro’n ôl

Sicrhaodd Swydd Northampton ail bwynt bonws cyn i Marchant de Lange daro coes Rob Keogh o flaen y wiced, y gyntaf o saith wiced a gwympodd am 70 rhediad.

Roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 310, ac fe orffennodd y capten Michael Hogan gyda phedair wiced am 58, a Marchant de Lange yn cipio tair am 85.

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad ar ei hôl hi o 103, ac roedd gwaeth i ddod wrth iddyn nhw golli’r agorwr Nick Selman am 13 pan gafodd ei fowlio gan Richard Gleeson.

Ond sicrhaodd Jacques Rudolph, wrth fatio’n ymosodol, fod Morgannwg wedi cyrraedd 63-1 erbyn diwedd y dydd, ac maen nhw 40 o rediadau ar ei hôl hi ar ddechrau’r trydydd diwrnod.