Cae Ras (Llun oddi ar wefan Clwb Pel-droed Wrecsam)
Gêm gyfartal 
ddi-sgôr oedd hi neithiwr ar Gae Ras gwlyb a gwyntog, gyda storm Aileen yn cyrraedd gogledd Cymru.

Roedd  y ddau dîm ar rediadau gwych yn y gynghrair – a rhwystro ei gilydd oedd y nod, a’r canlyniad.

Mae Wrecsam wedi gallu cadw’r llechen lân ar ol pedair gêm yn olynol, ond wedi syrthio i’r chweched safle ar ôl y gêm. Dim ond dau bwynt sydd rhyngddyn nha a Sutton, sydd ar frig y tabl.

Alex Reid gafodd y cyfle gorau i sgorio i’r tîm cartref, ond fe arbedodd Scott Loach yn dda o flaen torf o 4,144.