Roedd y crasfa o 4-0 gafodd tîm pêl-droed Abertawe yn erbyn Man U yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe yn “annheg”, yn ôl y capten dros dro, Federico Fernandez.

Fe darodd Jordan Ayew y trawst ar ôl tair munud yn ystod hanner cyntaf cryf i’r Elyrch, er eu bod nhw’n colli o 1-o erbyn yr egwyl ar ôl gôl hwyr gan Eric Bailly.

Ond sgoriodd Romelu Lukaku, Paul Pogba ac Anthony Martial o fewn tair munud 41 eiliad i’w gilydd i sicrhau nad oedd y sgôr yn adlewyrchu perfformiad yr Elyrch mewn gwirionedd.

Positifrwydd

Yn ôl Federico Fernandez, oedd yn arwain y tîm yn absenoldeb Leon Britton, fe ddylai’r tîm barhau i fod yn bositif er gwaetha’r canlyniad.

“Dw i’n credu bod y canlyniad yn annheg i ni.

“Fe chwaraeon ni’n dda iawn yn yr hanner cyntaf ac fe aethon ni â’r gêm at Manchester United.

“Oni bai am y chwarae gosod toc cyn hanner amser, dw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi bod ar ei hôl hi.

“Roedden nhw’n dda iawn yn gwrthymosod ac fe fanteision nhw ar ein newidiadau ni yn yr ail hanner.”

Y prif newid oedd lleihau nifer yr amddiffynwyr o bump i bedwar wrth fynd âm y gôl i unioni’r sgôr, wrth i Wayne Routledge ddisodli Kyle Bartley ar ôl 66 munud.

‘Dim esgusodion’

Ychwanegodd Federico Fernandez: “Does dim esgusodion gyda ni, rhaid i ni barhau i weithio’n galed.

“Ond dw i’n credu ein bod ni wedi chwarae’n dda am gyfnodau helaeth, ac fe ddylen ni edrych ar y pethau positif oherwydd hynny.”