Gylfi Sigurdsson
Fe fydd ymosodwr Abertawe, Gylfi Sigurdsson yn cael prawf meddygol heddiw cyn cwblhau ei drosglwyddiad i Everton am £45m.

Dyma fydd diwedd drama fawr y byd pêl-droed sydd wedi para gydol yr haf wrth i’r ddau glwb ddadlau tros y ffi – gyda’r Elyrch yn hawlio ei fod yn werth £50m.

Ond mae’n ymddangos bod cyfaddawd wedi bod er mwyn dod â’r helynt i ben.

Wrth i’r trafodaethau rygnu ymlaen, penderfynodd Gylfi Sigurdsson nad oedd e yn y cyflwr meddyliol cywir i fynd ar daith i’r Unol Daleithiau, a doedd e ddim wedi cael ei ddewis i herio Southampton ar ddiwrnod cynta’r tymor ddydd Sadwrn – wrth i’r gêm orffen yn ddi-sgôr heb fod yr Elyrch wedi taro’r nod unwaith.

Mae’r Elyrch wedi gwrthod o leiaf ddau gynnig blaenorol am yr ymosodwr, ond fe fu’r ddau reolwr Paul Clement a Ronald Koeman yn awyddus i gau pen y mwdwl ar y sefyllfa mor fuan â phosib.

Roedd Gylfi Sigurdsson yn rhan allweddol o lwyddiant yr Elyrch y tymor diwethaf wrth iddo sgorio naw gôl a chynorthwyo 13 o weithiau wrth iddyn nhw lwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Fe allai’r Elyrch fynd ar ôl eu cyn-ymosodwr Wilfried Bony i lenwi’r bwlch, ac yntau’n wynebu dyfodol ansicr gyda Manchester City.

Manchester United

Gyda’r newyddion y gallai Gylfi Sigurdsson fod wedi gadael cyn diwedd yr wythnos, mae problemau Abertawe’n pentyrru wrth i Fernando Llorente orfod methu’r gêm yn erbyn Man U ddydd Sadwrn.

Fe fu’n hyfforddi ers dydd Mawrth ar ôl gwella ar ôl torri ei fraich, ond dydy e ddim wedi gwella digon er mwyn ymuno â’r tîm ar gyfer y gêm.