aled
Aled Sion Davies (Llun: S4C)
Mae Aled Siôn Davies wedi cael ei enwi’n ‘Athletwr Gorau Prydain’ ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Llundain – a hynny gan gefnogwyr tim Prydain.

Fe ddaeth i frig y rhestr fer oedd hefyd yn cynnwys y rhedwyr ar lafnau, Richard Whitehead a Jonnie Peacock.

Fe dorrodd y taflwr 26 oed o Ben-y-bont ar Ogwr record byd wrth hawlio medal aur am daflu pwysau, gan lwyddo i daflu’r siot bellter o 16.02 metr ar ei gynnig cyntaf, cyn gwella ar hynny gydag ail dafliad o 17.52 metr – y pellter a dorrodd y record byd.

Roedd e eisoes wedi cipio’r fedal aur am daflu’r ddisgen yn y categori F42.

Dyma’r trydydd tro yn olynol iddo fe ddod i’r brig yn y ddwy gamp yn ystod yr un Pencampwriaethau.