Fe allai tîm criced Prydain gael ei sefydlu er mwyn cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2024.

Dyw’r gamp ddim yn rhan o’r Gemau ar hyn o bryd.

Roedd yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 1998 – er bod Iwerddon, sydd bellach yn dîm prawf, fel arfer yn cystadlu fel gwlad unedig. Doedd Lloegr na Chymru ddim wedi cofrestru tîm.

Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn awyddus i griced gael ei hail-gyflwyno i’r Gemau Olympaidd am y tro cyntaf ers 1900 ym Mharis.

Tan yn ddiweddar, roedd Bwrdd Criced India’n gwrthwynebu’r syniad, ond mae lle i gredu eu bod nhw wedi newid eu meddyliau erbyn hyn.

Mae aelodau Prydeinig o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) o’r farn na fydd hi’n bosib cynnwys criced yn y Gemau Olympaidd tan 2032, ond maen nhw’n cefnogi’r egwyddor.

Rhwystrau

Ym Mharis y bydd y Gemau Olympaidd unwaith eto yn 2024, a Los Angeles fydd yn eu cynnal yn 2028.

Ond oherwydd nad yw criced yn boblogaidd yn y naill wlad na’r llall, mae aelodau Prydeinig o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol o’r farn na fydd hi’n cael ei chynnwys yn y naill Gemau na’r llall.

Ond mae cadeirydd Cymdeithas Olympaidd Prydain (BOA), Syr Hugh Robertson wedi dweud y byddai’n gefnogol i’r syniad.

“Byddai’r BOA yn gefnogol iawn i griced yn ennill statws Olympaidd, yn enwedig ar sail y ffaith fod dynion a menywod yn cystadlu.

“Mae gennym ni berthynas wych â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, ac yn cofio’n annwyl bod cae Lord’s wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer saethyddiaeth yn Llundain yn 2012.

“Mae criced wedi ymddangos yng Ngemau’r Gymanwlad (yn 1998) lle’r oedd i’w gweld yn ychwanegiad gwych ac wrth gwrs, rydyn ni’n falch iawn o weld llwyddiant diweddar Cwpan y Byd y menywod yn y wlad hon yn ddiweddar.”

Tîm pêl-droed Prydain

Cafodd tîm pêl-droed Prydain ei sefydlu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, gyda phump o Gymry yn y garfan – Ryan Giggs yn gapten, Craig Bellamy, Neil Taylor, Joe Allen ac Aaron Ramsey

Ond fe achosodd gryn anniddigrwydd ymhlith cymdeithasau pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac fe gafodd y syniad ei roi o’r neilltu ar gyfer Gemau Olympaidd Rio yn 2016.

Ymgyrch i sefydlu tîm Cymru

Byddai cyflwyno tîm criced Prydain yn debygol hefyd o ddenu gwrthwynebiad gan y rheiny sy’n cefnogi’r ymgyrch i sefydlu tîm criced i Gymru cefnogi’r ymgyrch i sefydlu tîm criced i Gymru, yr unig un o wledydd Prydain sydd heb dîm cenedlaethol ar hyn o bryd.

Mae’r mater hwnnw wedi codi ei ben unwaith eto’n ddiweddar ar ôl i Iwerddon ennill statws tîm prawf, tra bod yr Alban yn parhau i gystadlu am le yng Nghwpan y Byd bob pedair blynedd.

Mae Clwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru ill dau yn gwrthwynebu creu tîm Cymru.