Fe fydd rhai o enwogion mwya’r byd golff yn dod i Borthcawl heddiw i baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Chwaraewyr Hŷn, sy’n dechrau yfory.

Mae 30 o gyn-enillwyr Cwpan Ryder yn cystadlu – a’r enwau ar restr y cystadleuwyr yn cynnwys Colin Montgomerie, Jose Maria Olazabal, John Daly, Nick Faldo, Bernhard Langer, Tom Watson, Sandy Lyle a’r Cymro, Ian Woosnam.

Yn ymuno â nhw fydd tri Chymro proffesiynol arall – Stephen Dodd, Mark Mouland a Phillip Price, ynghyd â llu o chwaraewyr sydd wedi cymhwyso drwy ennill cystadlaethau blaenorol.

Ymhlith enillwyr y gystadleuaeth yn y gorffennol mae Tom Watson (tair gwaith); Bernhard Langer , Gary Player, Christy O’Connor Jr (dwy waith yr un); a Fred Couples. Y wobr i’r enillydd yw £1,500.

Bydd y cystadlu’n dechrau yfory (ddydd Iau, Gorffennaf 27) ac yn para tan ddydd Sul.