Timm van der Gugten wrth y llain i Forgannwg
Mae angen 212 o rediadau ar Forgannwg i guro Swydd Derby ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth o dan y llifoleuadau yng Nghaerdydd yfory.

Roedd ganddyn nhw chwe phelawd i’w hwynebu ar ddiwedd y dydd, ac fe oroeson nhw tan belen olaf un y dydd cyn i Jacques Rudolph roi ei goes o flaen y wiced oddi ar fowlio’r troellwr coes Jeevan Mendis i’w gadael yn 0-1 dros nos.

Sesiwn gynta’r dydd

Doedd y gêm ddim wedi dechrau tan 6 o’r gloch heno pan oedd Swydd Derby yn 2-0 yn eu hail fatiad. Cafodd Morgannwg y dechrau gorau posib wrth iddyn nhw gipio dwy wiced mewn deg pelen – Marchant de Lange yn cipio wiced mewn pelawdau olynol. Tom Taylor oedd y cyntaf allan, wedi’i fowlio am dri, ac fe ddilynodd Tony Palladino yn fuan wedyn, wedi’i ddal yn sgwâr gan Owen Morgan, a’r ymwelwyr yn 7-2.

Billy Godleman oedd y trydydd batiwr allan wrth iddo fe gael ei ddal yn sgwâr gan Andrew Salter oddi ar fowlio Marchant de Lange, ac yntau’n cipio’i drydedd wiced wrth i Swydd Derby lithro i 39-3.

Roedden nhw’n 63-4 pan gafodd Wayne Madsen ei ddal gan y maeswr agos Aneurin Donald oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am 13. Erbyn yr egwyl, roedd yr ymwelwyr yn 72-4, ac roedd ganddyn nhw fantais o 123.

Y sesiwn olaf

Parhau i gwympo wnaeth y wicedi ar ôl y toriad. Alex Hughes oedd y cyntaf allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg, cyn i’r un bowliwr ddarganfod coes Gary Wilson o flaen y wiced, a’r ymwelwyr yn 112-6.

Dilynodd Daryn Smit yn fuan wedyn am dri, a’i goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Andrew Salter. Cyrhaeddodd Luis Reece ei hanner canred oddi ar 89 o belenni, ar ôl taro saith pedwar mewn ymgais i ymadfer ar ôl i’w dîm golli wiced ar ôl wiced.

Cafodd Jeevan Mendis ei ollwng gan Aneurin Donald oddi ar fowlio Marchant de Lange ar dri a Swydd Derby erbyn hynny’n 134-8, ar y blaen o 187.

Cwympodd y nawfed wiced wrth i Tom Milnes ddarganfod dwylo Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio Timm van der Gugten, a’r sgôr yn 155.

Daeth y batiad i ben wrth i Jeevan Mendis dynnu’r bêl i ddwylo Jacques Rudolph ar y ffin oddi ar fowlio’r Iseldirwr am 27, ac roedd Swydd Derby i gyd allan am 160, gan osod nod o 212 i Forgannwg am y fuddugoliaeth.

Gyda chwe phelawd yn weddill o’r dydd, daeth Jacques Rudolph a’r noswyliwr Timm van der Gugten i’r llain. Fe lwyddon nhw i amddiffyn am 5.5 pelawd cyn i Jeevan Mendis ddarganfod coes Rudolph o flaen y wiced, a Morgannwg yn gorffen ar 0-1.