Fe fydd Morgannwg yn ail-ddechrau eu batiad cyntaf yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby am 2 o’r gloch brynhawn dydd Mawrth ar ôl gorffen y diwrnod cyntaf ar 5-0 o dan y llifoleuadau yng Nghaerdydd.

Methodd Swydd Derby â manteisio ar alw’n gywir wrth i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf ar ôl 3.4 pelawd gyda’r bêl binc ar y llain a gafodd ei defnyddio ar gyfer yr ornest ugain pelawd rhwng Lloegr a De Affrica dros y penwythnos.

Fe wnaeth Timm van der Gugten ddarganfod coes Luis Reece o flaen y wiced wrth i’r batiwr fethu â chynnig ergyd gyda’i dîm wedi sgorio un rhediad yn unig.

Ond adeiladodd Wayne Madsen a’r capten Billy Godleman bartneriaeth o 85 erbyn amser cinio i achub eu tîm i ryw raddau. Roedd Madsen wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 77 o belenni ac roedd e wedi taro wyth pedwar cyn cinio, wrth i’w bartner daro tri.

Ail sesiwn

Daeth ail wiced i Forgannwg yn fuan ar ôl yr egwyl, pan darodd Wayne Madsen (70) ergyd wael y tu allan i’r ffon agored i gyfeiriad y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten, gan ddod â phartneriaeth o 98 i ben. Ychwanegodd Alex Hughes a Godleman 28 cyn i’r capten ergydio’n wyllt oddi ar Marchant de Lange i’r wicedwr Chris Cooke wrth iddo yntau sicrhau ei ail ddaliad.

Cafodd Cooke drydydd daliad, wrth i’r gyntaf o dair wiced gwympo am bedwar rhediad yn ystod cyfnod dwys o dan y goleuadau. Roedd Gary Wilson yn anfodlon â phenderfyniad y dyfarnwr ei fod e wedi’i ddal gan Cooke, ei drydydd daliad, ac roedd Swydd Derby yn 139-4.

Fe wnaeth Graham Wagg ddarganfod coes Alex Hughes o flaen y wiced i gipio’i wiced gyntaf y tymor hwn, ac fe ddathlodd yn ei fodd unigryw ac ymosodol ei hun yn wyneb y batiwr, a’r ymwelwyr yn 141-5. Cwympodd y chweched wiced ar 143, wrth i Nick Selman gipio tipyn o ddaliad yn y slip i waredu chwaraewr amryddawn Sri Lanca, Jeevan Mendis oddi ar fowlio Graham Wagg am ddau.

Brwydrodd Swydd Derby yn galed i gyrraedd 150 wrth i Tom Taylor a Daryn Smit ddod ynghyd yn y canol. Ond fe gyrhaeddon nhw 157 yn unig cyn i Taylor gael ei ddal gan Cooke – ei bedwerydd daliad – oddi ar fowlio Timm van der Gugten oddi ar y belen olaf cyn te, a Swydd Derby yn 157-7.

Y sesiwn olaf

Morgannwg oedd wedi cael y gorau o’r sesiwn gyntaf, ond yr ymwelwyr gafodd y gorau o’r sesiwn olaf o dan y goleuadau, wrth i Tom Milnes a Daryn Smit adeiladu partneriaeth ddefnyddiol o 66. Ond fe gafodd Smit ei ddal yn y gyli gan Andrew Salter oddi ar fowlio Marchant de Lange am 41, a’r sgôr yn 223-8.

Roedd Swydd Derby wedi cyrraedd 257-8 pan gyrhaeddodd Tom Milnes ei hanner canred oddi ar 87 o belenni yn ystod pelawdau ola’r dydd, a’r ymwelwyr wedi sicrhau ail bwynt batio. Ond fe gipiodd Chris Cooke ei bumed daliad yn y batiad gyda’r sgôr yn 261-9, wth i Tom Milnes golli ei wiced am 53, a’r sgôr yn 261-9. Daeth Hamidullah Qadri i’r llain, ac yntau’n torri record fel y chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Swydd Derby yn y Bencampwriaeth, a’r cricedwr cyntaf i’w eni yn 2000 neu’n hwyrach i chwarae yn y Bencampwriaeth.

Cwympodd y wiced olaf wrth i Tony Palladino ddarganfod dwylo Graham Wagg oddi ar fowlio Michael Hogan ar yr ochr agored, a Swydd Derby i gyd allan am 288 gyda dwy belawd yn weddill o’r diwrnod. Roedd Morgannwg yn 5-0 ar ddiwedd y dydd, gyda Jacques Rudolph a’r noswyliwr Timm van der Gugten wrth y llain.

Sgorfwrdd