Fe fydd tîm criced Morgannwg yn cynnal gêm Bencampwriaeth o dan y llifoleuadau am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Derby i’r brifddinas.

Mae Morgannwg wedi cymryd rhan mewn arbrawf o’r fath yn y gorffennol, ond gêm ar gae Caergaint yn erbyn Swydd Gaint oedd honno ym mis Medi 2011. Bryd hynny, cafodd cryn dipyn o’r gêm ei cholli i’r tywydd, ond Morgannwg oedd yn fuddugol o wyth wiced ar y noson olaf.

Wrth ddechrau yng nghanol haf y tro hwn, mae’r ECB yn gobeithio am rownd o gemau llawn drwy Gymru a Llogr i baratoi’r tîm prawf ar gyfer gêm ryngwladol yn erbyn India’r Gorllewin yn Edgbaston ar rhwng Awst 17-21.

Yn ôl adroddiadau, mae 50,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm yn Edgbaston, gyda 40% ohonyn nhw wedi’u gwerthu i bobol sydd erioed wedi prynu tocyn o’r blaen.

Yn hytrach na dechrau am 11 o’r gloch, bydd y gêm yn dechrau am 2 o’r gloch ac yn gorffen am 9 o’r gloch, gyda chinio am 4 o’r gloch a the am 6.40pm.

Mae tocynnau ar gael o hyd am £15 am ddiwrnod cyfan, £10 am y ddwy sesiwn olaf neu £5 am y sesiwn olaf, a phlant yn cael mynediad am ddiwrnod cyfan am £3 yn unig.

Y bêl

Yn hytrach na’r bêl goch draddodiadol, pêl binc fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer y gêm hon o dan y goleuadau.

Cwmni Duke, y cwmni sy’n cynhyrchu peli cochion yn Lloegr, sydd wedi cynhyrchu’r bêl unwaith eto, ac mae bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg yn cofio bod yna broblemau gyda’r un bêl yn 2011, er iddo fe gipio pum wiced yn y gêm.

Dywedodd: “Gwyrodd y bêl am ryw chwe phelawd yn unig cyn colli ei sglein a meddalu. Dw i’n cofio fod rhaid i ni newid y bêl ddwywaith yn eu batiad nhw, gan fod y paent yn cwympo i ffwrdd o hyd.”

Ond mae’r cwmni’n mynnu eu bod nhw wedi cadw gwneuthuriad y bêl “mor agos â phosib at y bêl draddodiadol” y tro hwn.

Y timau

Mae’r Iseldirwr Timm van der Gugten yn dychwelyd i garfan Morgannwg ar ôl bod yn cynrychioli ei wlad yn erbyn Zimbabwe, ac mae’r wicedwr Chris Cooke wedi gwella o anaf i’w ben ar ôl cael ei daro yn y rhwydi cyn y gêm yn erbyn Swydd Durham.

Fe fu’r ddau yn allweddol wrth i Forgannwg guro Swydd Gaerwrangon yn ddiweddar, wrth i Timm van der Gugten gipio chwe wiced, ac fe darodd Chris Cooke 93 i ychwanegu at ei ddau hanner canred a chanred yn ei bedwar batiad diwethaf.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft fod ei dîm yn edrych ymlaen at y profiad.

“Fe gawson ni sesiwn ymarfer dda yng Nghasnewydd gyda’r bêl binc ac mae’r chwaraewyr i gyd yn edrych ymlaen at y gêm.

“Fe fydd yn brofiad newydd i ran fwya’r bechgyn felly bydd rhaid i ni addasu’n gyflym, ond ry’n ni’n hyderus y byddwn ni’n gallu gwneud hynny a dechrau ennill eto.”

Tîm Morgannwg: J Rudolph, N Selman, A Salter, C Ingram, A Donald, G Wagg, C Cooke, M de Lange, M Hogan (capten), O Morgan, T van der Gugten

Tîm Swydd Derby: B Godleman (capten), L Reece, W Madsen, A Hughes, G Wilson, D Smit, J Mendis, T Taylor, T Milnes, T Palladino, Hamidullah Qadri

Sgorfwrdd