Elinor Barker
Bydd y seiclwraig Elinor Barker o Gaerdydd yn falch i adael Ynys Manaw ar ôl penwythnos rhwystredig yn cystadlu yn y Bencampwriaeth  Genedlaethol  2017.

Ar ôl gorffen  yn bumed ar ôl dioddef pynjar yn y ras yn erbyn y cloc, roedd Barker yn gyntaf am gyfnod hir yn y ras ffordd pan gafodd ei dal gydag ond dau gilomedr i fynd gan Lizzie Deignan (Boels Dolmans ) i orffen yn y bedwerydd safle. Roedd Katie Archibald (Team WNT) yn ail a Hannah Barnes (Canyon-SRAM) yn drydedd.

Dywedodd Barker: “Dwi mor flin i gael fy nal reit yn y diwedd, ond ar ôl diwrnod hir ar y tu blaen nid oes llawer gall rywun ei neud pan mae Deignan yn siasio chi.”

Mi orffennodd Manon Lloyd o Sir Gaer (Team Breeze) yn yr ail safle i’r tîm o dan-23.

Yn ras y dynion, Steve Cummings (Team Dimension Data) oedd yr enillydd gyda Scott Davies (Team Wiggins) yn cael diwrnod da arall yn gorffen yn ail  i Chris Lawless (Axeon Hagens Berman CT)  yn yr oedran o dan-23.