Richard Williams, cefnogwr Bangor Llun: Tommie Collins
Mae’r Dinasyddion yn ôl yn Ewrop ac yn teithio i Lyngby, Denmarc, ar gyfer gêm rownd ragbrofol Cynghrair Ewrop ddydd Iau.

Ond i gefnogwr brwd fel Richard Williams, mae wedi bod yn her a hanner i gyrraedd Lyngby.

“Mae cyngerdd y grŵp Guns N’ Roses yn Copenhagen nos Fawrth felly roedd yn ddrud i hedfan drosodd ac i aros wythnos yma. Rydan ni yn hedfan bore dydd Llun (heddiw) a mynd syth drosodd i Malmo, Sweden i aros tan ddydd Mercher.

“Mae’n wych bod ni nôl yn Ewrop a’r gobaith ydy peidio cael cweir  nos Iau i gadw diddordeb yn yr ail gymal wythnos wedyn yn Nantporth. Rwy’n gobeithio bydd holl brofiad Gary Taylor-Fletcher  o fantais i ni – ond mi fydd Henry Jones sydd wedi symud i AFC Fylde yn golled, roedd yn chwaraewr arbennig.”

Ennill y Gynghrair Genedlaethol

“Mae gen i atgofion melys o wylio Bangor yn Ewrop, roedd fy nhaith gyntaf i Latfia yn 2005, roedd y gêm bedair awr o’r brifddinas Riga ond mi gawsom ni lifft ar fws y tîm – am brofiad.

“Mae’n bwysig i ni fel clwb fynd drwodd o’r rownd yma, yn amlwg oherwydd y pres ac i ddenu chwaraewyr o safon. Y nod ydy  ennill y Gynghrair Genedlaethol ac wedyn mynd i Gynghrair y Pencampwyr – gobeithio na fyddai’n aros yn hir.

“Rwyf yn falch iawn i gael Brayden Shaw yn ôl y tymor hwn, mae’n dangos bod gan y tîm rheoli gysylltiadau da yn y gêm a bod y clwb gydag uchelgais.”