Warren Gatland (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland a’r canolwr o Gymru, Jonathan Davies wedi dweud bod diffyg disgyblaeth a chamgymeriadau wedi costio’n ddrud iddyn nhw yn Auckland, wrth iddyn nhw gael eu trechu 30-15 gan Seland Newydd yn y prawf cyntaf.

Wrth ganmol y Crysau Duon am fod yn “glinigol”, dywedodd Jonathan Davies fod “disgyblaeth wael a gwallau fwy na thebyg wedi costio’n ddrud i ni ac a bod yn deg, roedd y Crysau Duon yn glinigol yn ôl eu harfer.

“Ond gallwn ni gymryd tipyn allan o’r gêm. Wnaethon ni greu tipyn [o gyfleoedd], mater yw hi o orffen y cyfleoedd. Allwn ni ddim gadael ceisiau allan yna.

“Y pethau positif oedd ein bod ni wedi creu cyfleoedd, ond mae angen i ni eu gorffen nhw.”

‘Dim rygbi siampên’

Roedd tactegau Seland Newydd yn dipyn o sioc i’r Llewod, yn ôl y prif hyfforddwr, Warren Gatland.

“Wnaethon nhw ddim dod allan a chwarae rygbi siampên.

“Roedden nhw’n uniongyrchol iawn yn dod oddi ar y mewnwr a phob clod iddyn nhw. Wnaethon nhw ein trechu ni yn yr ardal yna.

“Roedden ni’n ceisio cael y fantais ac a bod yn deg iddyn nhw, nhw oedd â’r fantais heddiw.

“Does dim esgusodion gyda ni am y canlyniad oherwydd roedden nhw’n haeddu ennill.

“Ond mae pethau y gallwn ni weithio’n arbennig o galed arnyn nhw’r wythnos hon a gwella wrth gymryd cyfleoedd a bod yn fwy cywir yn ardal y dacl.”

Bydd yr ail brawf yn Wellington ar Orffennaf 1, a bydd rhaid i’r Llewod ennill honno os ydyn nhw am fod â gobaith o ennill cyfres yn erbyn Seland Newydd am y tro cyntaf ers 1971.