Mae brwydr gyffrous ar y gweill ar bedwerydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Durham ar gae San Helen yn Abertawe.

Dechreuodd yr ymwelwyr y diwrnod olaf ar 158-3, 147 o rediadau o flaen Morgannwg gyda saith wiced yn weddill o’u hail fatiad. Roedd hi’n debygol ar un adeg y byddai’n rhaid i Forgannwg ganlyn ymlaen ond fe lwyddon nhw, rywsut, i gael blaenoriaeth o 11 diolch i 75 gan Andrew Salter, ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm ddosbarth cyntaf.

Sesiwn y bore

Ychwanegodd y wicedwr Chris Cooke chwe rhediad yn unig at ei gyfanswm dros nos o 63 cyn iddo fe gael ei ddal yn gampus gan y bowliwr Paul Coughlin oddi ar ei fowlio’i hun. Bu bron i Cooke golli ei wiced yn y pelawdau agoriadol wrth iddo daro’r bêl o fewn modfeddi i’w ffyn.

Daeth Marchant de Lange i’r llain mewn modd ymosodol gyda chyfres o ergydion i’r ffin, ac fe orfododd un o’i ergydion i Andrew Salter, ei bartner, neidio o’r ffordd. Daeth chwech oddi ar y troellwr llaw chwith George Harding, ac yntau yn ei gêm gyntaf i’r sir, ond fe gollodd ei wiced wrth i Chris Rushworth ei fowlio fe am 30, gan ddod â phartneriaeth o 45 i ben am yr wythfed wiced.

Roedd Timm van der Gugten yn ôl yn y pafiliwn yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan Keaton Jennings heb sgorio. Tarodd y capten Michael Hogan ddwy ergyd gadarn oddi ar ddwy belen gynta’i fatiad, ac fe ychwanegodd e chwech gydag ergyd fawr dros ben y bowliwr Paul Coughlin i gyfeiriad y pafiliwn.

Cyrhaeddodd Andrew Salter ei hanner canred wrth iddo fe dynnu Coughlin am chwech, ac fe ailadroddodd yr ergyd oddi ar y belen nesaf wrth i Forgannwg fynd amdani i leihau mantais yr ymwelwyr. Llwyddodd y Cymry i fynd ar y blaen cyn i Salter gael ei ddal gan Keaton Jennings am 75, a daeth batiad Morgannwg i ben ar 353.

Sesiwn y prynhawn

Dechreuodd Swydd Durham eu hail fatiad ar ôl cinio, 11 o rediadau y tu ôl i Forgannwg. Ac fe gymerodd 2.2 o belawdau i Forgannwg gipio’r wiced gyntaf wrth i Stephen Cook daro ergyd lac i ddwylo Andrew Salter oddi ar fowlio Marchant de Lange.

Roedd Swydd Durham 24 o rediadau ar y blaen pan gollon nhw eu hail wiced, wrth i Cameron Steel gael ei fowlio gan Timm van der Gugten am 10. Ond daeth sefydlogrwydd i fatiad yr ymwelwyr wrth i Keaton Jennings a Graham Clark ychwanegu 40 o rediadau at y cyfanswm ar gyfer y drydedd wiced cyn i David Lloyd, oddi ar ei belen gyntaf, ddarganfod coes Jennings o flaen y wiced am 35.

Fe ddylai Graham Clark fod wedi cael ei ddal gan y bowliwr Marchant de Lange, ond fe wnaeth y bowliwr gawlach ohoni wrth adael i’r bêl gwympo drwy ei fysedd.

Y sesiwn olaf

Roedd Swydd Durham yn 105-3 erbyn amser te, gyda 39 o belawdau’n weddill oherwydd bod cynifer o belawdau wedi cael eu colli o ganlyniad i’r tywydd ar yr ail ddiwrnod.

Cyrhaeddodd Graham Clark ei hanner canred oddi ar 97 o belenni yn fuan ar ôl yr egwyl wrth iddo fe adeiladu partneriaeth hollbwysig gyda’i gapten Paul Collingwood.

Fe fu’n rhaid i fowlwyr Morgannwg weithio’n galed tua diwedd y prynhawn wrth i’r golau bylu, ac fe aethon nhw oddi ar y cae am 5.18pm tra bod Graham Clark yn 63 heb fod allan, a’r capten Paul Collingwood yn 40 heb fod allan.

Sgorfwrdd