Mae Will Bragg yn ôl yng ngharfan pedwar diwrnod Morgannwg wrth iddyn nhw groesawu Swydd Nottingham i Gaerdydd yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw.

Mae’r batiwr agoriadol wedi profi ei ffitrwydd yn ystod ymgyrch aflwyddiannus Morgannwg yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London ar ôl cyfnod o salwch dros y gaeaf oedd wedi ei orfodi allan o’r tîm ar ddechrau’r tymor.

Will Bragg oedd prif sgoriwr Morgannwg yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, ac fe darodd e ddau hanner canred, a 94 yn erbyn Swydd Gaint – ei gyfanswm gorau erioed mewn gêm undydd – yn ystod y gemau diweddaraf.

Dywedodd: “Byddai’n braf efelychu perfformiadau’r tymor diwethaf, a mynd ymlaen i sgorio mwy o rediadau’r tymor hwn.

“Dw i wedi cyrraedd yr oedran nawr lle dw i’n adnabod fy nghryfderau a dw i am geisio efelychu’r hyn wnes i’r tymor diwethaf.

“Fel tîm, rhaid i ni ganolbwyntio ar y pethau sylfaenol a sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth yn dda, a pheidio â chanolbwyntio’n ormodol ar yr hyn mae’r gwrthwynebwyr yn ei wneud.

“Rhaid i ni edrych arnon ni ein hunain a chynhyrchu’r hyn allwn ni.”

‘Profiad sylweddol’

Mae capten Morgannwg, Jacques Rudolph wedi croesawu’r newyddion fod Will Bragg ar gael ar gyfer y gêm Bencampwriaeth.

“Dw i’n amlwg wrth fy modd i’w weld e’n ôl gan mai fe oedd ein batiwr gorau ni’r llynedd ac mae ganddo fe brofiad sylweddol. Bydd hynny’n cynnig cystadleuaeth ymhlith y chwaraewyr, sy’n beth iach.

Fe fydd Morgannwg hefyd yn cael hwb o wybod fod eu bowliwr cyflym Timm van der Gugten, Chwaraewr y Flwyddyn y tymor diwethaf, ar gael unwaith eto ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd.

Y gwrthwynebwyr

Mae cryn her yn wynebu Morgannwg ar ôl i Swydd Nottingham ennill eu tair gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Dywedodd Jacques Rudolph: “Maen nhw’n uned o’r radd flaenaf ac mae’n bwysig ein bod ni’n cofleidio’r her y byddan nhw’n ei chynnig dros y pedwar diwrnod nesaf.”

Ond byddan nhw heb dri chwaraewr allweddol – y bowliwr cyflym James Pattinson, sydd yng ngharfan Awstralia ar gyfer Tlws Pencampwyr yr ICC, a dau o chwaraewyr Lloegr, y batiwr Alex Hales a’r bowliwr cyflym Jake Ball, sydd hefyd yn mynd i chwarae yn y gystadleuaeth.

Yn dod i mewn i’r garfan yn lle James Pattinson mae’r batiwr o India, Cheteshwar Pujara.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, W Bragg, C Ingram, A Donald, K Carlson, C Cooke, D Lloyd, M Hogan, M De Lange, T van der Gugten, A Salter, L Carey

Y tîm: J Rudolph (capten), N Selman, W Bragg, C Ingram, A Donald, C Cooke, D Lloyd, A Salter, M de Lange, T van der Gugten, L Carey

Carfan Swydd Nottingham: B Taylor, J Libby, C Pujara, S Mullaney, C Read (capten), S Broad, R Wessels, H Gurney, L Wood, L Fletcher, M Carter, S Patel, B Hutton, M Lumb

Y tîm: S Mullaney, J Libby, C Pujara, S Patel, M Lumb, R Wessels, C Read (capten), B Hutton, S Broad, L Fletcher, H Gurney

Sgorfwrdd

Galwodd Swydd Nottingham yn gywir a phenderfynu batio