Gylfi Sigurdsson
Mae Gylfi Sigurdsson wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth aros gydag Abertawe, yn ôl y prif hyfforddwr.

Roedd adroddiadau’r wythnos hon y gallai’r chwaraewr 27 oed fod ar ei ffordd i Everton ar ôl helpu i gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

Ond fe wnaeth Gylfi Sigurdsson ddatgan nos Fercher ei fod yn hapus i aros yn ne Cymru am y tro, a hynny ar ôl cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y clwb yn eu gwobrau diwedd tymor.

Yn ystod tymor anodd i’r Elyrch, fe fu Gylfi Sigurdsson yn un o’r perfformwyr cyson, gan sgorio 11 gôl, ac mae ganddo fe a’r Sbaenwr Fernando Llorente y bartneriaeth orau yn yr Uwch Gynghrair o ran goliau a chynorthwyo goliau.

Fe fu’r bartneriaeth honno, ynghyd â dylanwad Gylfi Sigurdsson, yn allweddol i lwyddiant diweddar yr Elyrch i aros yn yr Uwch Gynghrair, yn ôl Paul Clement, sy’n paratoi ei dîm yr wythnos hon ar gyfer gêm ola’r tymor yn Stadiwm Liberty yn erbyn West Brom ddydd Sul.

Dywedodd Paul Clement: “Mae’n rhan bwysig ohonon ni ar hyn o bryd, a dyna lle’r y’n ni’n cael ein goliau. Ers dechrau’r flwyddyn, mae’r ddau ohonyn nhw wedi darganfod sut mae’r llall yn chwarae ar ei orau.

“Po fwya’ ry’n ni’n croesi i Fernando, dyna sut mae e’n llewyrchu. Mae e wedi edrych yn beryglus iawn ers y Nadolig.

“Ac mae Gylfi yn chwaraewr o safon sy’n gweithio’n galed, a dyna’r peth pwysicaf. Dyw e ddim yn un o’r rheiny sy ond yn gwneud ychydig bach, mae e’n un sy’n rhedeg y nifer fwyaf o filltiroedd ac yn gwibio fwyaf. Mae hynny’n beth gwych i gael yn eich tîm.”

Spurs

Symudodd Gylfi Sigurdsson i Abertawe o Spurs ar fenthyg yn wreiddiol yn 2012, gan sgorio saith gôl mewn 18 o gemau.

Ond ar ôl cyfnod rhwystredig yn ceisio ennill ei le yn nhîm Spurs ar ôl dychwelyd i White Hart Lane, dychwelodd e’n barhaol i Abertawe yn 2014 ac mae e wedi bod yn un o’r hoelion wyth ers hynny.

Dywedodd Paul Clement: “Roedd e yma ar fenthyg, wedyn aeth e nôl i Tottenham, a dyna oedd y cam nesaf yn ei yrfa, i fod. Wnaeth e ddim gweithio allan, a daeth e nôl yma a gwneud yn dda iawn.

“Os yw e am wneud y cam nesaf yn ei yrfa, rhaid iddo fod yn gam positif. All e ddim cael sefyllfa arall fel yr un gafodd e yn Tottenham, lle mae e’n mynd rhywle ac yn cael ei hun i

mewn ac allan o’r tîm ac yn methu adeiladu momentwm.

“Fel arall, byddai’n well iddo fe aros yma, bod yn chwaraewr allweddol ac adeiladu rhywbeth o gwmpas symud y clwb yma ymlaen.

“Mae angen i lawer o chwaraewyr benderfynu yn eu gyrfaoedd… Ydyn nhw am fod yn bysgodyn bach mewn pwll mawr neu’n bysgodyn mawr mewn pwll bach?

“Mae gan [Gylfi Sigurdsson] dipyn o uchelgais a galla i ddeall hynny. Gobeithio y bydd e’n aros yma a gobeithio yn y dyfodol y caiff e gyfle i chwarae i glwb mawr.”

Ciciau rhydd

Er bod Abertawe wedi cael tymor digon siomedig o flaen y gôl y tymor hwn, fe fu ciciau rhydd Gylfi Sigurdsson yn cynnig llygedyn o obaith i’r tîm ar adegau pan fuon nhw o dan bwysau.

Ac mae ei waith ar y cae ymarfer i berffeithio’i giciau rhydd wedi talu ar ei ganfed, yn ôl Paul Clement.

“Mae e’n treulio oes yn ymarfer. Does dim lwc yn y peth, mae e’n gweithio mor galed. Mae e’n foi da i gael ar hyd y lle.”