Jacques Rudolph
Union 14 o flynyddoedd i’r diwrnod ar ôl sgorio 222 heb fod allan yn ei gêm brawf gyntaf dros Dde Affrica, llwyddodd Jacques Rudolph i achub Morgannwg yn eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London ym Mryste gyda batiad o 121.

Y Cymry oedd yn fuddugol o 18 rhediad drwy ddull Duckworth-Lewis.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, dechreuodd Morgannwg yn gadarn gyda phartneriaeth o 56 rhwng y capten Jacques Rudolph a’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd.

Ond collodd y Cymro ei wiced yn y bymthegfed pelawd cyn diwedd yr ail gyfnod clatsio, y bowliwr Benny Howell yn canfod ei goes o flaen y wiced.

Dim llawer o gyfle i’r batiwr

Doedd Kiran Carlson, y batiwr o Gaerdydd, ddim wedi cael fawr o gyfle i ymgartrefu wrth y llain cyn i ddryswch rhyngddo fe a’i gapten arwain at ei redeg allan am 14, a Morgannwg yn 85-2. Ond aeth y capten ymlaen i sgorio rhediad rhif 10,000 ei yrfa mewn gemau undydd ar ei ffordd i hanner canred.

Daeth partneriaeth o 89 rhwng y ddau fatiwr o Dde Affrica, Jacques Rudolph a Colin Ingram i ben gyda rhagor o redeg gwyllt rhwng y wicedi, ac Ingram yn cael ei redeg allan wrth fynd am rediad cyflym, a Morgannwg yn 174-3.

Llithrodd Morgannwg i 182-5 o fewn 39 pelawd wrth i Aneurin Donald fethu â thanio, a chael ei fowlio gan Jack Taylor am 5 wrth geisio gyrru’n syth oddi ar belen oedd wedi troi tuag ato. Gallai Chris Cooke fod wedi cael ei ddal ar y ffin gan Liam Norwell pe na bai’r maeswr ar y ffin ar ochr y goes wedi camddarllen taith y bêl, a’i gollwng hi ar yr eiliad tyngedfennol.

Dim ond 10 rhediad ychwanegodd e yn y pen draw, wrth iddo fe gael ei fowlio gan Benny Howell, a Morgannwg yn 216-5 ym mhelawd rhif 45.

Canred y capten

Cyrhaeddodd y capten ei ganred ym mhelawd rhif 46, gan daro wyth pedwar ac un chwech ar hyd y ffordd. Cafodd Craig Meschede ei fowlio ar ddiwedd cameo digon addawol yn y belawd olaf ond un wrth ychwanegu 16 at y cyfanswm i gyflymu’r sgorio ryw fymryn.

Daeth batiad arwrol Jacques Rudolph i ben ar 121 wrth i Chris Liddle gipio’i ail wiced yn y belawd. Daeth 17 oddi ar y belawd olaf wrth i Marchant de Lange ac Andrew Salter sicrhau bod gan y Saeson ddigon o her o’u blaenau i gwrso 278.

Daeth cyfle cynnar i Forgannwg gipio wiced a bu ond y dim iddyn nhw wneud hynny cyn i’r wicedwr Chris Cooke ollwng y bêl oddi ar fowlio Lukas Carey, a’r cyfanswm yn 0-0.

Dechrau digon cyfforddus gafodd y Saeson cyn i’r batiwr agoriadol Phil Mustard ddarganfod menyg y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Marchant de Lange, a’r cyfanswm yn 29-1.

Dau rediad gafodd eu hychwanegu at y cyfanswm cyn i Colin Ingram ddal Chris Dent yn gampus yn y slip oddi ar fowlio Marchant de Lange. Un rhediad yn ddiweddarach, ac roedd Iain Cockbain yn ôl yn y pafiliwn hefyd, wedi’i fowlio gan Lukas Carey, a’r cyfanswm yn 32-3.

Y Saeson sefydlog

Ond daeth sefydlogrwydd i’r Saeson wrth i Michael Klinger a Graeme van Buuren adeiladu partneriaeth gadarn am y bedwaredd wiced. Daeth y chwaraewyr oddi ar y cae yn y nawfed pelawd ar hugain oherwydd y glaw a phan ddychwelon nhw, roedd gan Swydd Gaerloyw nod o 144 oddi ar ugain pelawd.

Daeth partneriaeth Michael Klinger a Graeme van Buuren o 114 i ben pan gafodd coes Klinger ei darganfod o flaen y wiced oddi ar fowlio Colin Ingram am 78, ac fe gipiodd y troellwr coes ail wiced yn y belawd yn yr un ffordd, Graeme van Buuren allan y tro hwn am 51.

Benny Howell oedd y chweched batiwr i golli ei wiced, Jacques Rudolph yn ei ddal ar ymyl y cylch ar yr ochr agored oddi ar fowlio Craig Meschede, a’r Saeson bellach yn 160-6.

Er i Jack Taylor a Tom Smith gynnig llygedyn o obaith i’r Saeson gyda phartneriaeth gadarn, roedd angen 51 o rediadau oddi ar bedair pelawd ola’r batiad wrth i Forgannwg ddechrau eu gwasgu.

Ergyd gam am bedwar roddodd ei hanner canred i Jack Taylor, ac roedd angen 28 o rediadau o hyd ar y Saeson oddi ar 11 o belenni. Cafodd Taylor ei redeg allan oddi ar belen ola’r belawd olaf ond un, a’r nod bellach oedd 26 oddi ar y belawd olaf.

Daeth y gêm i ben pan gafodd Liam Norwell ei fowlio gan Colin Ingram yn y belawd olaf, a Morgannwg yn fuddugol o 18 rhediad drwy ddull Duckworth-Lewis.